'Rydym yn falch iawn o weld yr arolwg o foddhad myfyrwyr eleni’n cydnabod y profiad myfyrwyr arobryn y mae prifysgolion Cymru yn ei gynnig.'

'Rydym yn arbennig o falch o weld Cymru'n arwain y DU ar lais myfyrwyr ac asesu ac adborth, gan ddangos y pwysigrwydd sylweddol y mae ein prifysgolion yn ei osod ar ymgysylltu a gweithio gyda myfyrwyr.

'Gall myfyrwyr sy'n ymuno â phrifysgolion Cymru yn yr hydref fod yn sicr o gael profiad o ansawdd uchel gyda myfyrwyr yn ganolog iddynt, ac un sy'n eu cynorthwyo i gyflawni eu huchelgeisiau a gwireddu eu potensial.'