Mae Prifysgolion Cymru wedi cytuno ar bartneriaeth newydd gyda Sefydliad Ymchwil - Fflandrys, Fonds Wetenschappelijk Onderzoek – Vlaanderen (FWO), i hyrwyddo cyfranogiad grwpiau ymchwil y Gymru yn FWO Galwad 2024 am Rwydweithiau Ymchwil Gwyddonol (SRN). Mae’r bartneriaeth yn cynorthwyo â’r cysylltiadau hirsefydlog rhwng Cymru a Fflandrys ym maes ymchwil ac arloesi.

Er mwyn hyrwyddo cyfranogiad grwpiau ymchwil o Gymru yn y Rhwydweithiau Ymchwil hyn, bydd Prifysgolion Cymru yn sicrhau bod hyd at £8,000 y flwyddyn ar gael am y tair blynedd nesaf. Gall pob SRN a gyflwynir i FWO sy’n cynnwys grwpiau ymchwil o Gymru ofyn am gyfraniad ychwanegol gan Brifysgolion Cymru o hyd at £4,000 y flwyddyn am dair blynedd.

I fod yn gymwys am gyllid ychwanegol gan Brifysgolion Cymru:

  1. Rhaid i’r cynnig SRN a gyflwynir i FWO gynnwys o leiaf un grŵp ymchwil o un brifysgol yng Nghymru gydag anogaeth gref i’r grŵp ymchwil Cymreig gynnwys cyfranogwyr o fwy nag un brifysgol yng Nghymru;
  2. Mae'n rhaid cynnal o leiaf un ddarlith wadd, gweithdy, seminar, symposiwm, cynhadledd yng Nghymru yn ystod cyfnod y cytundeb cyllido.

Anogir cyfranogiad gan grwpiau ymchwil iau, ynghyd â chydbwysedd rhwng y rhyweddau. Yn ogystal â hynny, mae Prifysgolion Cymru yn arbennig yn annog ceisiadau o'r meysydd a nodir fel meysydd rhagoriaeth gan Rwydwaith Arloesedd Cymru (WIN). Mae’r rhain yn gyflwyniadau sy’n cyd-fynd â chwech maes thematig craidd Rhwydwaith Arloesedd Cymru, a/neu’r clystyrau cydweithredol a amlinellir yn Horizon Europe.

Mae rhagor o wybodaeth am y cyfle hwn am gyllido ychwanegol, yn ogystal â’r weithdrefn ar gyfer ymgeisio, ar gael yn y canllawiau canlynol a’r dudalen we sy’n benodol ar gyfer FWO am yr alwad am Rwydweithiau Ymchwil Gwyddonol 2023Rhaid i gynigion SNR sy'n cynnwys cyfranogwyr o Gymru (gan gynnwys y cais am gyllido atodol) gael eu cyflwyno gan y prif ymgeisydd Ffleminaidd i FWO gan ddilyn y weithdrefn gyflwyno FWO ar gyfer SRN erbyn yr 2 Medi 2023 (5pm).