“Rydym yn croesawu’r datganiad heddiw y bydd y Llwybr Graddedigion yn parhau.

“Mae’r gallu i gynnig gwaith wedi cyfnod o astudio sydd yn gystadleuol yn hanfodol i’n gallu i ddarparu lleoliad astudio atyniadol. Yn ei dro, mae hyn yn hybu cyfleoedd a thyfiant economaidd. Yng Nghymru mae gennym ganran is o raddedigion yn ein gweithlu sy’n golygu fod y llwybr hwn yn arf bwysig i ddiwallu ein anghenion sgiliau.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir ynglyn a’r cyfraniad positif mae myfyrwyr tramor yn eu gwneud i gymdeithas, diwylliant ac economi Cymru. Rydym yn gwerthfawrogi y modd adeiladol o weithio gyda’r Llywodraeth ar y materion hyn.

“Tra bod adolygiad y Pwyllgor Cynghori ar Faterion Ymfudo yn glir nad oes unrhyw dystiolaeth o gamddefnydd o’r Llwybr Graddedigion, rydym yn ymroi fel sector i weithio i sicrhau ein bod yn cynnal lefel uchel o ymddiriedaeth a hyder yn y modd mae ein prifysgolion yn recriwtio ac yn cefnogi myfyrwyr tramor.

“Mae’r datganiad heddiw wedi rhoi eglurder angenrheidiol i sector sy’n gwynebu heriau o ran cynaliadwyedd ariannol a’r cwymp mewn niferoedd o fyfyrwyr tramor. Nawr, mae’n holl bwysig ein bod yn gweithio yn bositif i ddarparu sector cynaliadwy sydd ag ymagwedd rhyngwladol ac i barhau i roi croeso cynnes a chynhwysol i’r rheini sy’n dewis astudio yn ein prifysgolion.”