Trawsnewid Bywydau - Tim Allen
Roedd Tim Allen, a astudiodd Animeiddio Stop Motion ym Mhrifysgol De Cymru, yn Uwch Animeiddiwr ar Pinocchio Guillermo Del Toro, enillydd Oscar a BAFTA am y Ffilm Nodwedd Animeiddiedig Orau.
Cipiodd Pinocchio hefyd y Golden Globe am y Ffilm Animeiddiedig Orau, a phum gwobr Annie – sy’n anrhydeddu rhagoriaeth ym maes animeiddio – gan gynnwys y Ffilm Orau a’r Cyfarwyddo Gorau.
Mae Tim, sydd hefyd wedi gweithio ar gynyrchiadau animeiddio enfawr fel Chicken Run a Chicken Run: Dawn of the Nugget yn ystod ei yrfa 23 mlynedd, hefyd yn gweithio fel mentor, yn teithio’r byd yn cynnal dosbarthiadau meistr a gweithdai animeiddio i annog y genhedlaeth nesaf o animeiddwyr.
Meddai: “Pan oeddwn i’n 18 oed ac yn fyfyriwr celf ar goll, yn ceisio penderfynu beth roeddwn i eisiau ei wneud, roeddwn i’n gwybod bod gyrfa 40 i 50 mlynedd o fy mlaen i, ac roedd yn gwneud synnwyr fy mod i’n ceisio dilyn rhywbeth y byddwn i’n ei fwynhau.
“Nawr, yr holl flynyddoedd yn ddiweddarach, rwy’n dal i werthfawrogi’r hyn rwy’n ei wneud ac rydw i mor hapus fy mod wedi gwneud y penderfyniad i astudio Animeiddio Stop Motion ym Mhrifysgol Morgannwg (fel oedd hi ar y pryd).”