Trawsnewid Bywydau - Michael Rees
Ar ôl graddio gyda BSc Anrh mewn Bioleg o Brifysgol De Cymru, dilynodd Michael Rees ei angerdd am fioleg, ac astudiodd i fod yn athro gwyddoniaeth gyda'r Brifysgol Agored yng Nghymru.
Dyma stori Michael:
"Ar ôl graddio gyda BSc (Anrh) mewn Bioleg, dechreuais weithio fel technegydd gwyddoniaeth mewn ysgol. Roedd gweld fy holl gydweithwyr yn addysgu yn cadarnhau mai dyna roeddwn i eisiau ei wneud fel gyrfa a phenderfynais astudio ar gyfer fy nghymhwyster TAR.
Rhoddodd cwrs y Brifysgol Agored yr hyblygrwydd i mi barhau i ennill cyflog tra’n astudio, ac arhosais yn fy ysgol bresennol lle – ar ôl graddio – roeddwn yn ddigon ffodus i gael swydd addysgu barhaol.
Y rhan fwyaf gwerthfawr o fynd i’r brifysgol fu’r cyfle i ddatblygu a herio fy hun. Yn ystod fy nghwrs TAR cefais wahoddiad i siarad gyda’r gweinidog addysg ar y pryd, Kirsty Williams, yn ystod digwyddiad gyda chynulleidfa ar-lein, cymerais ran mewn arolygiad o’r cwrs gydag ESTYN, a bûm yn recordio fideos ar gyfer y noson agored. Roedd y rhain i gyd yn brofiadau gwych na fyddwn wedi eu cael fel arall.
Mae fy mywyd wedi newid yn llwyr o ganlyniad i fynychu'r brifysgol. Ni fyddai gen i fy swydd bresennol heb fy nau gymhwyster prifysgol, ac rydw i nawr yn gwneud swydd rydw i'n ei charu'n fawr. Rwyf hefyd wedi datblygu'n sylweddol fel person. Rwy'n hyderus y gallaf ymateb i'r her oherwydd yr holl bethau rydw i wedi'u gwneud yn ystod fy nghyfnod yn y brifysgol.
Efallai y bydd llawer o bobl yn meddwl nad yw mynd i’r brifysgol ar eu cyfer nhw oherwydd eu hamgylchiadau personol; efallai nad oes ganddynt yr amser i gwblhau cymhwyster prifysgol, neu eu bod yn methu fforddio cymryd yr amser i ffwrdd o'r gwaith, neu’n meddwl nad oes cwrs sy'n addas iddyn nhw. Gyda pheth ymchwil, bydd y rhan fwyaf o bawb yn gallu dod o hyd i gwrs sy'n gweddu iddyn nhw a'u bywyd, ac un a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol iddynt."