Trawsnewid Bywydau - Beck Collett
Graddiodd Beck Collett, sy’n byw gyda sglerosis ymledol (MS), o’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn 2022 gyda gradd Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol – profiad mae’n dweud sydd wedi ei newid fel person.
Graddiodd Beck Collett yn 2022 gyda gradd Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol o’r Brifysgol Agored yng Nghymru, ar ôl hefyd astudio ar gyfer ei gradd israddedig gyda’r Brifysgol Agored.
Gadawodd Beck yr ysgol yn 16 oed ar ôl gorffen ei harholiadau TGAU. Doedd ei bywyd cartref ddim bob amser yn sefydlog, ac nid oedd yn teimlo bod ganddi'r amser i baratoi'n iawn ar gyfer ei haddysg. Daeth o hyd i waith mewn archfarchnad leol a symud i'w chartref ei hun yn 18 oed. Yn 32, dechreuodd ar yrfa newydd mewn garddwriaeth.
'Er bod fy ngŵr wedi codi'r syniad o ddychwelyd i astudio droeon dros y blynyddoedd, roedd yn rhywbeth yr oeddwn i wastad wedi'i ddiystyru,' meddai Beck. Roedd y rhan honno o fy mywyd drosodd; sut gallwn i - gyda dim ond TGAU - hyd yn oed feddwl am ddechrau ar gwrs gradd?
'Roeddwn i wedi dechau mewn diwydiant newydd, ac roeddwn i'n benderfynol o ddringo i'r brig. Ar ôl chwe mis, cefais fy ngwneud yn rheolwr adrannol, ac roedd popeth yn mynd yn wych. Ac wedyn doedd pethau ddim cystal.'
Yn fuan ar ôl gadael ei hen swydd y sylwodd Beck ar newidiadau yn ei hiechyd, gan dderbyn diagnosis o sglerosis ymledol yn gynnar yn 2007. Ar ôl ychydig fisoedd yn dod i delerau â'r newyddion, anogodd ei gŵr John hi i feddwl am astudio. Dyna pryd, yn gwbl annisgwyl, y disgynnodd taflen yn hysbysebu'r Brifysgol Agored allan o gylchgrawn.
'Wrth edrych yn ôl ar yr y cyfnod hwnnw, dydw i ddim yn gwybod a allwn i fod wedi ymdopi â’r sefyllfa pe bai hynny heb ddigwydd,' meddai Beck. 'Roeddwn i'n teimlo mor ddiwerth, heb unrhyw bwrpas, ac yn sydyn iawn roedd cael y cymorth hwn yn ymddangos ar yr union eiliad iawn yn wyrthiol.'
Roedd dechrau gradd israddedig yn dilyn ei diagnosis wedi golygu rhai addasiadau i Beck, yn enwedig ar ôl cymaint o flynyddoedd ers ei harholiadau TGAU.
‘Bob dydd roeddwn i'n dysgu rhywbeth newydd neu'n cael fy hun yn meddwl yn wahanol am bethau roeddwn i wedi eu credu erioed. Yn bennaf, roedd y rhain yn bynciau a oedd yn gysylltiedig â phethau yr oeddwn wedi darllen amdanynt yn y deunyddiau cwrs, ond cefais fy hun yn newid fel person wrth i mi fynd ymlaen.
'Yn sicr roedd yna adegau pan oeddwn i’n teimlo fel rhoi'r gorau iddi (yn enwedig yn gynnar yn y radd israddedig) a cholli hyder yn fy ngallu a'm breuddwydion. Ond roedd yna bob amser rywun yno i'm hannog i ddal ati. Gwn na fyddwn wedi gorffen y naill radd na'r llall heb gefnogaeth y tiwtoriaid a'm cyd-fyfyrwyr.'
Ar ôl cwblhau ei gradd Meistr yn 2022, graddiodd Beck yn seremoni raddio Cymru’u Brifysgol Agored yn yr ICC yng Nghasnewydd. Mae’n parhau i ysgrifennu’n greadigol, ac yn aml yn cyfrannu at gyhoeddiadau ar gyfer Cymdeithas MS Cymru.