Trawsnewid Bywydau - Caitlin Tanner
Mae Caitlin Tanner, sy'n hollol fyddar, wedi cwblhau gradd mewn nyrsio a gradd Meistr mewn addysg ar gyfer proffesiynwyr gofal iechyd ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae wedi derbyn Ysgoloriaeth Rhagoriaeth Ymchwil.
Mae Caitlin yn hollol fyddar yn y ddwy glust ac mae’n gwisgo mewnblaniadau cochlear. Yn 2019, cwblhaodd ei gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Nyrsio Oedolion a chymhwyso i’r uned gofal dwys lle bu’n gweithio am dair blynedd a hanner yn ystod y pandemig Coronafeirws.
Tra'n gweithio'n glinigol yn ystod y cyfnod cythryblus hwn, dilynodd Caitlin radd Meistr rhan-amser mewn addysg ar gyfer proffesiynwyr gofal iechyd, gan gyflawni rhagoriaeth.
Trwy ei gwaith fel nyrs, sylweddolodd Caitlin fod bylchau mewn gwybodaeth am anghenion pobl fyddar. Yn dilyn hynny aeth ati i greu llyfryn sy'n ymdrin â gwybodaeth gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol: cynllun gofal o ddewisiadau cyfathrebu cleifion, sut i ofalu am gymhorthion clyw/mewnblaniadau cochlear, a sut i drefnu dehonglwyr.
Mae Caitlin hefyd wrthi'n ymchwilio i sut i wneud yr amgylchedd clinigol yn fwy addas ar gyfer nyrsys staff sydd wedi colli eu clyw neu sy'n ei ddatblygu’r cyflwr yn ystod eu gyrfaoedd. Mae hi wedi gwneud cais llwyddiannus am Ysgoloriaeth Rhagoriaeth Ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe i ddilyn ei hymchwil ar 'brofiadau nyrsys byddar yn y DU.'
Mae'r Brifysgol wedi cael effaith gadarnhaol ar Caitlin, gan ei gosod ar lwybr nad oedd yn credu y gallai ei gyflawni oherwydd ei byddardod. Cefnogaeth ei haddysgwyr yn y brifysgol a ysgogodd ei hyder ynddi hi ei hun a'i gallu academaidd.
Mae'r Brifysgol wedi agor llawer o lwybrau i Caitlin eu hystyried, boed yn yrfa mewn darlithio yn y brifysgol, cymrodoriaethau ymchwil, gwaith gyda’r llywodraeth, a llawer o opsiynau eraill.
Meddai Caitlin:
“Rwy’n teimlo’n ffodus i fod mewn sefyllfa wybodus sydd â’r potensial i greu newid a all wella profiadau pobl eraill yn gadarnhaol."