Cymru Fyd-eang yn lansio partneriaethau newydd yn Karnataka, India
Y mis hwn mae Cymru Fyd-eang wedi cyflwyno saith grant partneriaeth i brifysgolion yng Nghymru i gefnogi ymgysylltiad â thalaith Karnataka – un o daleithiau blaenoriaeth Cymru Fyd-eang yn India.
25 January 2024
Bydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru yn ymgysylltu â thair prifysgol yn nhalaith Bangalore - Mangalore, Raichur a Twmkur - i gynnig cymorth â chynyddu capasiti ym meysydd entrepreneuriaeth ac arloesi, a seiberddiogelwch. Bydd y prosiectau hyn yn cael cefnogaeth gan gyngor y dalaith, a'u nod fydd cryfhau arbenigedd academaidd ac arferion addysgu ym mhrifysgolion y dalaith.
Er mwyn cryfhau'r cysylltiadau â Karnataka ymhellach, mae Cymru Fyd-eang wedi partneru ag Athrofa Gwyddoniaeth India (IISc) - un o'r sefydliadau mwyaf blaenllaw yn y dalaith, ac yn India. O dan y bartneriaeth hon, bydd Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Phrifysgolion Metropolitan Caerdydd yn cydweithio â chymheiriaid sy’n academyddion yn IISc ar themâu gweithgynhyrchu ychwanegion, gwyddorau bywyd a seiberddiogelwch.
Yn 2022, dynododd bwrdd Cymru Fyd-eang Karnataka fel un o ddwy dalaith flaenoriaeth ar gyfer India o dan raglen Cymru Fyd-eang III. Ers hynny, mae Cymru Fyd-eang wedi datblygu perthynas â Chyngor Talaith Karnataka, sef corff addysg uwch enwebedig o dan lywodraeth talaith Karnataka a phrifysgolion y dalaith.
Ym mis Mehefin 2023, ymwelodd dirprwyaeth o is-gangellorion o sefydliadau talaith Karnataka, ynghyd â chynrychiolwyr o gyngor y dalaith yn Karnataka, â Chymru i ddatblygu cysylltiadau â phrifysgolion Cymru. Yn ystod yr ymweliad, cyfarfu prifysgolion yng Nghymru ag is-gangellorion pum prifysgol o dalaith Karnataka i ddynodi cyfleoedd ar gyfer datblygu partneriaethau. Bydd arian o’r gronfa bartneriaeth yn cefnogi cynnydd y trafodaethau hyn i ganlyniadau cydweithredol.
Meddai Gwen Williams, Pennaeth rhaglen Cymru Fyd-eang, am bartneriaethau Karnataka:
“Mae wedi bod yn bleser gweld ymgysylltiad Cymru Fyd-eang â thalaith Karnataka yn ffynnu dros y flwyddyn ddiwethaf. Rwyf wrth fy modd â'r ymateb gan sefydliadau, yng Nghymru a Karnataka, ac yn edrych ymlaen at weld y partneriaethau hyn yn dwyn ffrwyth.
“Bydd prosiectau partneriaeth ar gyfer prifysgolion talaith Karnataka ac Athrofa Gwyddoniaeth India yn cael eu cynnal rhwng Ionawr a Mehefin 2024. Mae hyn yn cyd-fynd ag ymgyrch ‘Cymru yn India’ Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024.”