Ymateb Prifysgolion Cymru i’r cyhoeddiad y bydd Mark Drakeford ASC yn ymddiswyddo fel Prif Weinidog Cymru
Mewn ymateb i Mark Drakeford ASC yn cyhoeddi y bydd yn ymddiswyddo fel Prif Weinidog Cymru, dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Cadeirydd Prifysgolion Cymru:
13 December 2023
'Hoffwn ddiolch i Mark Drakeford ASC am ei gyfraniad i addysg uwch dros nifer o flynyddoedd.
‘Yn ystod ei gyfnod fel Prif Weinidog, gweithiodd prifysgolion Cymru’n agos gyda Llywodraeth Cymru i liniaru effaith y pandemig ar ein myfyrwyr, staff a sefydliadau. O ganlyniad, cafodd Cymru’r lefelau uchaf o gymorth ar gyfer addysg uwch yn y DU.
'Arweiniodd y bartneriaeth hon hefyd at brotocol ar gyfer dychwelyd i gampysau, y cytunwyd arno gan brifysgolion, undebau a Llywodraeth Cymru, a alluogodd Cymru i gael y lefel uchaf o ddarpariaeth wyneb-yn-wyneb yn y DU, gyda ffocws ar lesiant a chyrhaeddiad myfyrwyr. Dangosodd y dull cydweithredol hwn yr effaith ddiriaethol a buddiol y gall partneriaeth gymdeithasol ei chael.
'Mae cefnogaeth y Prif Weinidog i bartneriaeth gymdeithasol, y Gymraeg a diwylliant Cymru, a lle Cymru ar y llwyfan rhyngwladol hefyd wedi helpu prifysgolion i gryfhau eu rôl fel angorau yn eu hardaloedd, yn ogystal ag adeiladu cysylltiadau byd-eang. Ar yr un pryd, llwyddodd nodweddion a gwerthoedd personol Mark yn y rôl – gyda ffocws ar gydweithio, parch a phartneriaeth – i siapio ein ffyrdd o weithio er gwell.
Yn ogystal â chynnal y safonau proffesiynol uchaf bob amser, mae personoliaeth gynnes Mark a’i synnwyr digrifwch bob amser wedi dod i’r amlwg, ac rwyf wedi mwynhau gweithio gydag ef yn fawr dros nifer o flynyddoedd. Dymunaf y gorau iddo ar gyfer y dyfodol.'