Yn ogystal â thrwy weithgareddau uniongyrchol, mae prifysgolion hefyd yn cynnal yr economi trwy brynu gwasanaethau a nwyddau o sectorau eraill a thrwy bŵer gwario staff a myfyrwyr. Mae prifysgolion yng Nghymru hefyd yn denu nifer sylweddol o fyfyrwyr rhyngwladol, gan greu £661 miliwn ar gyfer economi Cymru – bron i 12% o holl enillion allforio sector gwasanaethau Cymru.

3 women serving behind the counter of a coffee shop

Wrth edrych ar flwyddyn academaidd 2019/20, canfu’r ymchwil newydd, a gomisiynwyd gan Brifysgolion Cymru, fod prifysgolion yng Nghymru wedi creu:

  • £5.3bn o allbwn
  • 61,722 o swyddi
  • un swydd ar gyfer pob dau fyfyriwr rhyngwladol oedd wedi cofrestru yn y brifysgol
  • 8% (£661 miliwn) o holl enillion allforio sector gwasanaethau Cymru
  • £2.8bn o Gynnyrch Domestig Gros (CDG) Cymru – sy’n cyfateb i 4.2% o CDC Cymru yn 2019.

Mae’n werth nodi bod yr adroddiad hefyd wedi canfod nad oedd y buddion hyn wedi’u cyfyngu i’r ardaloedd hynny o’r wlad sydd â phrifysgol. Teimlir effeithiau cadarnhaol addysg uwch mewn cymunedau ledled Cymru – gyda 22% o’r swyddi ac 20% o’r CDG wedi’i greu mewn ardaloedd awdurdodau lleol lle nad oes prifysgol.

Mae’r effaith economaidd sylweddol hon yn bodoli ochr-yn-ochr â’r cyfraniad enfawr y mae prifysgolion yn ei wneud i gymdeithas trwy ymchwil sy’n newid bywydau ac addysgu gweithlu yfory, gan gynnwys gweithwyr y sector cyhoeddus. Roedd dadansoddiad diweddar yn rhagweld y bydd 10,000 o nyrsys, 4,000 o arbenigwyr meddygol ac 8,000 o athrawon yn cael eu hyfforddi ym mhrifysgolion Cymru dros y pum mlynedd nesaf.

Meddai’r Athro Elizabeth Treasure, Cadeirydd Prifysgolion Cymru:

“Mae’r Adroddiad hwn yn dangos yn glir yr hyn y mae prifysgolion yn ei olygu i economi Cymru. O ddarparu mynediad i addysg a sgiliau i weithio gyda busnes ar ymchwil ac arloesi blaengar, mae’r gwaith y mae ein prifysgolion yn ei wneud wedi’i gydblethu’n agos â phobl a lleoedd Cymru.

“Yr hyn sy’n fwyaf nodedig am ganfyddiadau’r adroddiad hwn yw, nid yn unig effaith economaidd uniongyrchol y gweithgareddau y mae ein prifysgolion yn eu cyflawni, ond sut mae ein sefydliadau’n dwyn budd ar draws cymunedau lleol, ac yn wir, ledled Cymru.

“Wrth i ni ailadeiladu ac adfer o effaith pandemig Covid-19, bydd prifysgolion yng Nghymru’n parhau i weithio gyda phartneriaid ledled Cymru, ac yn barod i wynebu heriau byd sy’n newid. Rydym yn parhau i fod yn gadarn yn ein huchelgais i dyfu a chynnal sector addysg uwch llwyddiannus, mentrus sy’n denu arbenigedd a rhagoriaeth ryngwladol wrth gyflawni dros Gymru gyfan.”

Meddai’r Gweinidog dros yr Economi, Vaughan Gething ASC:

“Rwy’n croesawu’r adroddiad pwysig hwn yn fawr, sy’n nodi cryfderau sefydliadau addysg uwch Cymru a’u cyfraniad hanfodol i gymdeithas Cymru ac i’n heconomi.

“Yng Nghymru, rydym yn gwerthfawrogi ein prifysgolion fel ysgogwyr ymchwil ac arloesi, gan greu a dosbarthu gwybodaeth newydd a all drawsnewid sut rydym yn byw ac yn gweithio. Maent yn rhan hanfodol o’r ddarpariaeth sgiliau, gan addysgu a hyfforddi ein pobl ar gyfer swyddi’r dyfodol, a chynnig cyfleoedd ar gyfer datblygu sgiliau gydol oes.

“Yn hanfodol, mae ein prifysgolion yn sefydliadau sylfaenol yn ein cymunedau lleol, yn darparu neu’n cyfrannu at gyflogaeth 1 o bob 20 o bobl yng Nghymru, ac yn chwarae rhan allweddol mewn economïau lleol. Rwy’n arbennig o falch bod Cymru yn perfformio’n well na gwledydd eraill y DU o ran cyfran y busnesau newydd sy’n cael eu sefydlu gan raddedigion per capita – gydag amrywiaeth drawiadol o fusnesau’n tyfu allan o brifysgolion Cymru. Mae’r busnesau hyn yn ein helpu i ddal ein gafael mewn talent, sy’n hanfodol ar gyfer ffyniant economaidd Cymru yn y dyfodol.

“Trwy eu gweithgareddau addysgu, ymchwil ac arloesi, yn ogystal ag ymgysylltu dinesig, mae gan brifysgolion ran hanfodol i’w chwarae wrth gefnogi ein cynlluniau ar gyfer adfer a’n blaenoriaethau ar gyfer Rhaglen y Llywodraeth. Edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw, wrth i ni weithio gyda’n gilydd i adeiladu Cymru fwy llewyrchus, cyfartal a gwyrddach.”

Meddai Ursula Kelly, awdur ‘Effaith economaidd addysg uwch yng Nghymru’:

“Mae’r adroddiad hwn yn cadarnhau’r rôl ganolog y mae prifysgolion yn ei chwarae yn economi Cymru, gan gynhyrchu degau o filoedd o swyddi a biliynau o bunnoedd mewn allbwn bob blwyddyn.

“Mae’r rhifau hyn yn dangos y ffordd y mae prifysgolion yn hybu ffyniant unigol a chenedlaethol, yn cynnig cyfleoedd trwy gyflogaeth ac yn creu effaith sylweddol yn eu cymunedau fel sylfaen leol ar gyfer twf economaidd rhanbarthol a chymunedol.”

Meddai Dr David Blaney, Prif Weithredwr CCAUC:

“Mae’r adroddiad hwn yn dangos sut mae ein sector addysg uwch yn parhau i chwarae rhan hanfodol wrth greu twf a ffyniant economaidd a chymdeithasol.

“Mae prifysgolion yng Nghymru yn asedau cenedlaethol sydd â chennad i addysgu, hyfforddi, ymchwilio ac arloesi. Maent yn cyfrannu at ddatblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig i ddiwallu anghenion y presennol a’r dyfodol, ac mae cydnabyddiaeth ryngwladol i effaith eu gweithgareddau ymchwil ac arloesi.

“Maen nhw’n allweddol i’w rhanbarthau ac ar draws Cymru, trwy eu gweithgareddau yn y gymuned a’u huchelgais o ran cennad ddinesig, ac maen nhw hefyd yn cynnal cysylltiadau rhyngwladol sy’n helpu Cymru i ddod yn bartner o ddewis ar gyfer busnes a buddsoddiad rhyngwladol, ac yn gyrchfan ddeniadol i fyfyrwyr a staff rhyngwladol.

“Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i gefnogi ein prifysgolion er mwyn eu galluogi i wneud cyfraniad llawn i’n helpu i ymdopi â heriau byd-eang, cymdeithasol ac economaidd y dyfodol.”