Cyhoeddwyd bod Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Abertawe wedi ennill y Wobr sy’n cydnabod gwaith ardderchog sy’n arddangos rhagoriaeth ac arloesedd, ac sy’n darparu budd gwirioneddol i'r byd ehangach. 

Rhoddwyd cydnabyddiaeth i Brifysgol Aberystwyth am eu gwaith arloesol yn helpu i fynd i’r afael ag effaith ddinistriol llyngyr lledog parasitig, sy’n achosi clefydau mewn pobl a da byw, yn y Gwobrau eleni. 

Hefyd derbyniodd Prifysgol Bangor wobr am ddatblygu system newydd ar gyfer gwyliadwriaeth iechyd y cyhoedd trwy ddadansoddi pathogenau niweidiol mewn dŵr gwastraff (a ddefnyddiwyd gyntaf yn genedlaethol yn ystod pandemig Covid-19).

Ymunodd Prifysgol Abertawe â grŵp bach o sefydliadau i ennill ddwy flynedd yn olynol - y tro hwn am eu Banc Data Cyswllt Diogel ar gyfer Gwybodaeth Ddienw (SAIL), sy’n dwyn ynghyd, yn cysylltu ac yn dadansoddi data o ffynonellau lluosog i ddarparu mewnwelediadau ar lefel poblogaeth i lywodraeth a llunwyr polisi.

Meddai Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr Prifysgolion Cymru:

“Rwy’n falch iawn bod y gwaith arloesol sy’n cael ei wneud ym mhrifysgolion Cymru wedi cael ei gydnabod yng Ngwobrau Pen-blwydd Teyrnasiad y Frenhines eleni.

“Mae ymchwil prifysgolion Cymru yn chwarae rhan hanfodol wrth yrru’r economi yn ei blaen a darparu datrysiadau i rai o heriau mwyaf enbyd cymdeithas. Mae’r anrhydedd haeddiannol hon yn amlygu pwysigrwydd yr ymchwil hwn sy’n arwain y byd, ynghyd â’r effaith y mae ein prifysgolion yn ei chael, yma yng Nghymru ac ar draws y byd.

Ar ran Prifysgolion Cymru, hoffwn longyfarch y prifysgolion a’r holl staff a fu’n ymwneud â’r cyflawniad anhygoel hwn.”

Cafodd enillwyr Gwobr Pen-blwydd Teyrnasiad y Frenhines eu cyhoeddi mewn derbyniad ym Mhalas St James yn Llundain, gyda gwobrau i’w cyflwyno mewn seremoni ffurfiol ym mis Chwefror y flwyddyn nesaf.

Cyhoeddwyd cyfanswm o 22 o enillwyr, gyda 3 gwobr i brifysgolion Cymru.