“Rydym wrth ein bodd â’r newyddion bod cytundeb ar gysylltiad â Horizon wedi’i ffurfio. Mae’r gallu i ymgysylltu â’r rhaglen gyllido allweddol hon ar gyfer ymchwil ac arloesi yn hollbwysig i’r gymuned ymchwil gyfan yng Nghymru – yn ein prifysgolion a thu hwnt.

“Roedd goresgyn y rhwystrau i’r cysylltiad hwn yn gamp sylweddol, ac rydym yn ddiolchgar i bawb a fu’n ymwneud â sicrhau’r canlyniad llwyddiannus hwn.  

“Mae Horizon Europe wedi bod yn sail i gydweithio gwyddonol ers dros 30 mlynedd. O ganfod canser yr ofari yn gynnar i ddatblygu rhwydweithiau ynni glân sy’n cynnwys dwsinau o brifysgolion a llawer o bartneriaid diwydiannol, mae Horizon yn caniatáu i ni wneud pethau na fyddai’n bosibl heb y raddfa honno o gydweithredu.

“Mae caniatáu i’n gwyddonwyr gydweithio, heb orfod ystyried ffiniau, o fudd i bob un ohonom. Bydd ein prifysgolion nawr yn gwneud popeth o fewn eu gallu i wneud yn siŵr ein bod yn sicrhau gwerth gwirioneddol o’r rhaglen, gan ddarparu’r holl gyfleoedd ymchwil sydd ar gael.”