Mae grwpiau llywio RhAC yn cynnwys pob un o’r naw prifysgol yng Nghymru, a’u nod yw cefnogi cydweithredu ym maes ymchwil ac arloesedd sy’n canolbwyntio ar gryfderau craidd. O fewn y meysydd hyn, bydd grwpiau llywio RhAC yn ceisio dod o hyd i gyfleoedd lle gallant, mewn partneriaeth, fynd i'r afael â heriau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd ar lefel leol, genedlaethol a byd-eang.

Mae’r grŵp llywio Iechyd a Llesiant yn canolbwyntio ar ddulliau amlddisgyblaethol o ymdrin â heriau iechyd a llesiant. Mae’r grŵp llywio Iechyd a Llesiant yn dwyn ynghyd arbenigedd ar draws pob un o’r naw prifysgol yng Nghymru sy’n canolbwyntio ar archwilio cyfleoedd cydweithredol yn effeithiol a darparu cydgysylltu gweithredol ymhlith prifysgolion Cymru ar faterion ymchwil ac arloesedd sy’n ymwneud ag iechyd a llesiant.

Mae gan y grŵp llywio hefyd arsylwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Chanolfan Gwyddorau Bywyd Cymru.

Ein haelodau

Dr Amanda Lloyd, Prifysgol Aberystwyth
Yr Athro Davey Jones, Prifysgol Bangor
Mayara Silveira Bianchim, Prifysgol Bangor
Dr Rachel Sumner, Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Yr Athro Simon Murphy, Prifysgol Caerdydd (Dirprwy Gadeirydd)
Yr Athro James Lewis, Prifysgol Caerdydd
Dr Jenny Douglas, Y Brifysgol Agored yng Nghymru
Yr Athro Lucy Griffiths, Prifysgol​​​​​​​ Abertawe (Cadeirydd)
Yr Athro Carolyn Wallace, Prifysgol​​​​​​​ De Cymru​​​​​​​
Ceri Phelps, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant​​​​​​​
Dr Nikki Lloyd-Jones, Prifysgol Wrecsam
Michael Bowdery, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Elen De Lacy, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Claudine Anderson, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Dr Olivia Howells, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
Elizabeth Rees, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru​​​​​​​
Gareth Healey, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru