Mae grwpiau llywio RhAC yn cynnwys pob un o’r naw prifysgol yng Nghymru, a’u nod yw cefnogi cydweithredu ym maes ymchwil ac arloesedd sy’n canolbwyntio ar gryfderau craidd. O fewn y meysydd hyn, bydd grwpiau llywio RhAC yn ceisio dod o hyd i gyfleoedd lle gallant, mewn partneriaeth, fynd i'r afael â heriau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd ar lefel leol, genedlaethol a byd-eang.

Yn ystod argyfwng hinsawdd byd-eang, bydd arbenigedd ymchwil Cymru mewn sero net a datgarboneiddio yn allweddol wrth gynorthwyo llywodraethau Cymru a’r DU i gyflawni eu nodau. Mae grŵp llywio Sero Net a Datgarboneiddio Rhwydwaith Arloesedd Cymru (RhAC) yn dwyn ynghyd arbenigedd o bob un o’r naw prifysgol yng Nghymru, gan gynnwys meysydd fel hydrogen, diwydiant a dur, niwclear, y gwyddorau cymdeithasol, yr economi gylchol, da byw a ffermio, ac adeiladau’r dyfodol a chynllunio trefol. Mae'r grŵp hefyd yn cynnwys partneriaid allanol sy'n cynrychioli diwydiant a'r amgylchedd. 

Ein haelodau

Yr Athro Jon Moorby, Prifysgol Aberystwyth
Yr Athro Simon Middleburgh, Prifysgol Bangor
Yr Athro Graham Ormondroyd, Prifysgol Bangor
Dr Gary Walpole,  Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Yr Athro Joanne Patterson, Prifysgol Caerdydd (Dirprwy Gadeirydd)
Yr Athro Matthew Cook, Y Brifysgol Agored yng Nghymru
Yr Athro Ian Mabbett, Prifysgol​​​​​​​ Abertawe (Cadeirydd)
Yr Athro Alun Guwy, Prifysgol​​​​​​​ De Cymru​​​​​​​
Yr Athro Luci Attala, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Dr Shafiul Monir, Prifysgol Wrecsam
Dr David Sprake, Prifysgol Wrecsam​​​​​​​
Ben Burggraaf, Diwydiant Sero Net Cymru
Andrew Schofield, Platfform yr Amgylchedd Cymru