Datblygu plaladdwyr ecogyfeillgar i ddiogelu cyflenwad bwyd y byd
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi darganfod dewisiadau amgen ecogyfeillgar i blaladdwyr cemegol cyfredol, gan weithio gyda diwydiant i ddatblygu cynhyrchion newydd i reoli plâu a diogelu cnydau.
Mae llawer o blaladdwyr cemegol wedi'u diddymu neu mae eu defnydd wedi'i gyfyngu oherwydd y niwed y maent yn ei achosi i bobl a'r amgylchedd. Yn ogystal, mae llawer o blâu cnydau a phlâu cynnyrch wedi'i storio wedi datblygu ymwrthedd i blaladdwyr cemegol confensiynol.
O ganlyniad, mae cnydau sy’n bwysig yn fyd-eang mewn perygl, ac mae ar dyfwyr angen plaladdwyr newydd sy’n ddiogel ac yn effeithiol ar frys.
Dod o hyd i ddewis arall yn lle plaladdwyr cemegol
Ymchwiliodd tîm o Brifysgol Abertawe i risg ac addasrwydd ffwng pathogenig pryfed, Metarhizium brunneum, a'i gyfansoddion organig anweddol (VOCs) fel dewis amgen i blaladdwyr cemegol confensiynol.
Canfu'r tîm fod M. brunneum yn effeithiol wrth reoli ystod eang o blâu di-asgwrn-cefn cnydau sy'n effeithio ar ddiogelwch bwyd, gan gynnwys gwiddon, pryfed gwyn, gwiddon pry cop coch a thripsod. At hynny, nid yw'r ffwng na'i fetabolion eilaidd yn cronni yn yr amgylchedd. Roedd y canfyddiadau hyn yn awgrymu bod M. brunneum yn annhebygol o achosi risg i bobl, rhywogaethau nad ydynt yn darged na'r amgylchedd.
Roedd ymchwil y tîm hefyd yn dangos bod M. brunneum yn cynhyrchu cyfansoddion organig anweddol y gellid, yn dibynnu ar ddos a fformiwleiddiad, gael eu defnyddio i ladd neu drin ymddygiad llawer o rywogaethau o blâu yn y pridd, gan gynnwys nematodau parasitig planhigion (llyngyr main tebyg i edau sy'n bwydo ar blanhigion), gwlithod a malwod, llyngyr y stumog a phryfed gwraidd ŷd, sydd i gyd yn achosi colledion sylweddol o gnydau ledled y byd. Roedd y cyfansoddion organig anweddol yn fyrhoedlog, nid oeddent yn gadael unrhyw weddillion, ac roedd yn ymddangos nad oeddent yn wenwynig i blanhigion, gan gynnig dewis arall mwy diogel yn lle mygdarthyddion cemegol confensiynol.
Datblygu cynhyrchion newydd
Gwnaeth y tîm ymchwil drwyddedu'r eiddo deallusol i Certis Europe BV iddynt ddatblygu cyfansoddion organig anweddol M. brunneum fel plaladdwr newydd.
Yn seiliedig ar waith y tîm, creodd Certis Europe BV dri phlaladdwr newydd:
- Mygdarthydd sy'n lladd nematodau parasitig planhigion
- Molysgladdwr sy'n lladd gwlithod a malwod
- Ymlidydd sy'n atal plâu fel gwlithod, malwod a phryfed rhag ymosod ar gnydau neu gynnyrch wedi'i storio
Gwnaethant hefyd ddatblygu rhaglen newydd i reoli plâu pridd.
Yn ogystal â chaniatáu i gwmnïau ddiweddaru ac adnewyddu eu cynhyrchion, roedd ymchwil y tîm yn caniatáu i ddosbarthwyr ddod o hyd i farchnadoedd newydd.
Symleiddio'r broses gofrestru ar gyfer bioblaladdwyr microbaidd
Mae'r Athro Butt a'i dîm wedi chwarae rhan allweddol wrth gefnogi awdurdodau rheoleiddio i adolygu a symleiddio'r broses gofrestru ar gyfer bioblaladdwyr microbaidd.
Gan weithio gyda'r asesydd risg arweiniol ar gyfer yr Iseldiroedd, adolygodd yr Athro Butt y broses asesu risg angenrheidiol i gofrestru M. brunneum fel cynnyrch sy’n ddiogel i'w werthu ar y farchnad agored. Canfuwyd bod y broses yn ddiangen o hir a chymhleth, a gwnaethant argymhellion i ddiwydiant a rheoleiddwyr i helpu i wneud y broses yn fwy effeithlon.
Bu’r Athro Butt hefyd yn gweithio gyda’r International Biocontrol Manufacturers Association (IBMA), sy’n cynrychioli tua 250 o gwmnïau ledled y byd sy’n ceisio datblygu a gwerthu bioblaladdwyr ecogyfeillgar. Mae ymchwil y tîm wedi galluogi IBMA i ddadlau dros ddatblygu dull asesu risg cymesur ar gyfer bioblaladdwyr gydag awdurdodau rheoleiddio Ewrop. Mae'r tîm hefyd yn gweithio gydag IBMA i hysbysu rhanddeiliaid am y canfyddiadau ymchwil diweddaraf, nodi partneriaid ar gyfer cydweithredu, a rhannu gwybodaeth am gynhyrchion a strategaethau newydd a allai gynyddu eu gallu i gystadlu.
Mae'r Athro Butt yn parhau i weithio gyda phartneriaid Ewropeaidd ar leihau'r baich rheoleiddiol o amgylch metabolion, a chyda phartneriaid diwydiannol i ddarganfod a phrofi cyfryngau bioreoli newydd a datblygu strategaethau rheoli plâu arloesol.
Y tîm ymchwil
Yr Athro Tariq Butt, yr Athro Cyswllt James Bull, Salim Khoja ac Esam Hameed Hummadi.