Nododd papur diweddar yn y Lancet fod 1.27 miliwn o bobl wedi marw ledled y byd oherwydd heintiau ag ymwrthedd i ddeunyddiau gwrthficrobaidd yn 2019. Mae atal yr heintiau hyn yn bwysicach nag erioed, ac mae arwynebau glân mewn lleoliadau gofal iechyd yn rhan allweddol o'r ateb.
Defnyddir cadachau gwrthficrobaidd i ddadheintio arwynebau mewn gofal iechyd i leihau'r risg y bydd cleifion yn cael heintiau. Nid oedd llawer yn hysbys am effeithiolrwydd y cynhyrchion gwrth-bacteriol hyn, a pha rai oedd y rhai mwyaf effeithiol wrth ddinistrio pathogenau bacteriol. Hefyd, nid oedd unrhyw dystiolaeth ynghylch sut y dylid defnyddio cadachau mewn lleoliadau clinigol i reoli heintiau yn effeithiol.
Yn 2006, cysylltodd Llywodraeth Cymru â'r Athro Maillard, oherwydd ei arbenigedd ymchwil helaeth ar fioleiddiaid gwrthficrobaidd ac ymwrthedd microbaidd, i ymchwilio i effeithiolrwydd cadachau gwrthficrobaidd ar gyfer rheoli heintiau mewn unedau gofal dwys yng Nghymru. Arweiniodd hyn at ddatblygu protocol prawf cynhwysfawr sy’n mesur effeithiolrwydd a risg sy'n gysylltiedig â chynhyrchion sy'n seiliedig ar gadachau (wipes).