Cadw treftadaeth fetel ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Mae ymchwil gan Brifysgol Caerdydd wedi llywio'r penderfyniadau i warchod ein treftadaeth fetel, o ystorfeydd archeolegol sy'n cynnwys miliynau o arteffactau sy'n olrhain hanes dynol i longau eiconig, gan gynnwys y Mary Rose, SS Great Britain Brunel a’r Armada Sbaeneg.
Fel cadwraethwyr wedi’u hyfforddi, mae’r Athro Dave Watkinson a Dr Nicola Emmerson wedi gweld yn uniongyrchol beth yw effeithiau cyrydu ar arteffactau metel, a'r holl heriau sy'n gysylltiedig â'u cadw a'u storio.
Diolch i'w hymchwil, maent bellach wedi darparu canllawiau sy'n seiliedig ar dystiolaeth angenrheidiol i helpu sefydliadau i warchod eu arteffactau, gan eu helpu i wneud gwell defnydd o'u hadnoddau a chynllunio ar gyfer y dyfodol.
Darllenwch fwy ar wefan Prifysgol Caerdydd