Beth yw camfanteisio’n rhywiol ar blant
Mae ymchwil arloesol Dr Sophie Hallett, Prifysgol Caerdydd, wedi gwneud barn pobl ifanc yn rhan annatod o benderfyniadau ynghylch eu gofal.
Mae ymchwil Dr Sophie Hallett am gamfanteisio'n rhywiol ar blant wedi newid y ffordd y mae gweithwyr cymdeithasol a llunwyr polisïau yn ystyried y math cymhleth hwn o gam-drin ac yn mynd i'r afael ag ef.
Dim ond yn 2009 y cafodd y term camfanteisio'n rhywiol ar blant, neu CSE, ei gyflwyno'n ffurfiol ym maes polisïau diogelu'r DU. Mae’n derm cymharol newydd o hyd, ond roedd diffyg ymwybyddiaeth o’i ystyr, beth ellir ei wneud i amddiffyn plant rhag niwed, a pha gymorth y dylid ei gynnig i'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio.
Fe wnaeth ymchwil Dr Sophie Hallett lenwi’r bwlch hwn mewn gwybodaeth hwn drwy edrych ar beth yw camfanteisio’n rhywiol ar blant, a'r ffordd orau o ymyrryd a'i atal.