Mae un o bob 20 o farwolaethau yn ne Cymru i'w briodoli i gamddefnyddio alcohol.
Gall camddefnyddio alcohol hefyd arwain at niwed i'r ymennydd sy'n gysylltiedig ag alcohol (ARBD), cyflwr nad yw'n cael ei gydnabod yn ddigonol sy'n gysylltiedig â dirywiad gwybyddol a chorfforol. Oherwydd y symptomau hyn, mae pobl ag ARBD yn aml yn cael diagnosis o dementia cynnar, sy’n anghywir.
Yn 2014, nododd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod angen mynd i’r afael â’r diffyg tystiolaeth a dealltwriaeth ynghylch ARBD.
Gan ddefnyddio data o sampl amrywiol o 60 o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar draws De Cymru, aeth tîm o ymchwilwyr o Brifysgol De Cymru ati i ddeall pa mor gyffredin yw ARBD a’r gwasanaethau sydd eu hangen i gefnogi pobl â’r cyflwr.
Canfu eu hymchwil ddiffyg ymwybyddiaeth o ARBD, anghysondebau yn y modd y rhoddir diagnosis o’r cyflwr a chadw cofnodion gwael.
Diagnosis a thrin ARBD
Yna, cynhaliodd y tîm werthusiad clinigol o ddau brawf niwrowybyddol a ddefnyddir yn gyffredin i asesu ARBD. Amlygodd hyn yr angen i glinigwyr gyfuno'r asesiadau hyn ag eraill i leihau'r tebygolrwydd y byddai pobl yn cael diagnosis anghywir.
Yn olaf, fe wnaethant nodi bod diffyg model triniaeth ar gyfer ARBD yn golygu bod gwasanaethau yn mabwysiadu ymagwedd anghyson at ofal.
Canfu ymchwil y tîm fod ARBD bedair gwaith yn fwy cyffredin na chlefyd niwronau motor, ond dim ond 16% o ddioddefwyr a gafodd ddiagnosis o fewn eu hoes.
Priodolwyd llawer o achosion i ddementia cynnar, a arweiniodd at roi pobl mewn cartrefi gofal. Fodd bynnag, mae tua 75% o bobl ag ARBD yn gwella'n rhannol o leiaf os byddant yn rhoi'r gorau i yfed ac yn cael triniaeth syml. Gan fod cost gofal dementia tua £600-£1,200 yr wythnos, gellir gwneud arbedion sylweddol os gwneir diagnosis cywir o ARBD.
Effaith ar bolisi ac ymarfer
Cafodd ymchwil y tîm effaith ar bolisi, gyda'u canfyddiadau'n sail i Fframwaith Triniaethau Camddefnyddio Sylweddau (SMTF) cyntaf erioed Llywodraeth Cymru ar gyfer ARBD - sydd yn ei dro wedi llywio’r gwaith o ddatblygu canllawiau'r DU.
Roedd eu hymchwil hefyd wedi helpu i lywio arfer proffesiynol, gyda’r tîm yn darparu hyfforddiant i godi ymwybyddiaeth o ARBD ymhlith staff gofal a chymorth, gan eu helpu i gefnogi pobl â’r cyflwr yn well. Cymeradwywyd hyfforddiant ARBD y tîm yn swyddogol gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion.
Y tîm ymchwil
Yr Athro Gareth Roderique-Davies a’r Athro Bev John – Grŵp Ymchwil ac Arloesi Seicoleg Gymhwysol, Prifysgol De Cymru
Partneriaid ymchwil
Grŵp Pobl