Blog Cadeirydd Cymru Fyd-eang - Ionawr i Ebrill 2023
Ers dechrau 2023, mae rhaglen Cymru Fyd-eang wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran cyflawni ei hamcanion ar gyfer y sefydliadau hynny sy’n aelodau a phartneriaid. Roeddwn i am fanteisio ar y cyfle i rannu rhai o uchafbwyntiau’r misoedd diwethaf.
3 Gorffennaf 2023
Ewrop
Ym mis Mawrth, croesawodd Cymru Fyd-eang ddirprwyaeth i Fangor ar ran 20 o brifysgolion y gwyddorau cymhwysol yn yr Almaen. Roedd yr ymweliad yn gyfle i arddangos y sefydliadau yng Nghymru, archwilio mentrau posibl ar gyfer cydweithio yn y dyfodol, a darparu cyfleoedd am rwydweithio rhwng sefydliadau. Roeddem yn falch o gael ymuno â chydweithwyr o Gymdeithas Ddysgedig Cymru, Taith, CCAUC, Prifysgolion Cymru, Rhwydwaith Arloesedd Cymru, a Phrifysgol Bangor. Diolch a vielen dank i'n gwesteion a'n siaradwyr am wneud yr ymweliad yn un buddiol a llwyddiannus.

Gan aros ym maes ymgysylltu Ewropeaidd, canolbwyntiodd Cymru Fyd-eang hefyd ar ddatblygu partneriaeth â Fflandrys, Gwlad Belg. Parhaodd trafodaethau gyda’r Sefydliad Ymchwil Ffleminaidd (FWO) i sefydlu partneriaeth newydd i ariannu cydweithio ym maes ymchwil rhwng prifysgolion Cymru a Fflandrys Trefnodd Cymru Fyd-eang weminar ar gyfer VLUHR (Vlaamse universiteiten en hogescholen raad) a’i aelodau i ddarparu gwybodaeth am gyfleoedd yng Nghymru.
Parhaodd Cymru Fyd-eang â gweithgareddau recriwtio yn Ffrainc, yr Almaen, a Sbaen, gan fynychu ffeiriau ar gyfer ôl-raddedigion ac israddedigion ym Mharis a Gwlad y Basg. Ymunodd y rhaglen hefyd â COBIS (Cyngor Ysgolion Rhyngwladol Prydain) fel cydymaith ategol i hwyluso hyrwyddo Astudio yng Nghymru ac ymgysylltu ag ysgolion rhyngwladol Prydeinig yn Ewrop.
Gogledd America
Ym mis Ebrill, cymerodd 19 o gynghorwyr o'r Unol Daleithiau - a ddewiswyd o blith bron i 300 o geisiadau - ran yn nhaith cynghorwyr Gogledd America 2023. Roedd y daith, a oedd hefyd yn cynnwys cynrychiolwyr o Ewrop ac India, yn cynnwys ymweliadau â phrifysgolion yng Nghymru, yn ogystal â chyfleoedd i gymryd rhan mewn profiadau diwylliannol.
Hefyd mynychodd Cymru Fyd-eang Gynhadledd Colegau Cymunedol ar gyfer Datblygu Rhyngwladol (CCID) yn Washington DC, gan ganolbwyntio ar gyfleoedd addysg bellach dramor. Yn ystod y gynhadledd, cyflwynodd Astudio yng Nghymru ochr-yn-ochr â Study Ireland ac Study New Zealand ynglŷn â’r cyfleoedd yn ein gwledydd ar gyfer partneriaeth, symudedd a dilyniant.

India
Cynhaliodd Cymru Fyd-eang ddau ddigwyddiad ar gyfer Cwpan Hoci’r Byd, gan hyrwyddo Astudio yng Nghymru i 40 o ysgolion o dalaith Odisha, a fynychwyd gan 7,000 o fyfyrwyr. Hefyd trefnwyd derbyniad i randdeiliaid a fynychwyd gan dros 50 o westeion o’r sectorau addysg, chwaraeon, masnach a buddsoddi er mwyn cryfhau cysylltiadau Cymru ac India.

Fietnam
Yn Fietnam, buom yn cymryd rhan mewn ymweliad datblygu partneriaeth yn seiliedig ar themâu ynni gwyrdd ac amaethyddiaeth gynaliadwy. Bu uwch staff academaidd a rheoli partneriaeth ryngwladol o Brifysgol De Cymru a Phrifysgol Bangor ar ymweliad wythnos o hyd ag ardaloedd Hanoi a Can Tho. Nodwyd nifer o gyfleoedd posibl, a rhoddwyd sylw pellach iddynt yn yr ymweliad gan gynrychiolwyr o Fietnam â Chymru ym mis Ebrill.

Astudio yng Nghymru
Mae wedi bod yn ychydig fisoedd prysur i frand Astudio yng Nghymru Cymru Fyd-eang, sydd wedi bod yn gweithio’n galed i godi ymwybyddiaeth o gyfleoedd i astudio ym mhrifysgolion a cholegau Cymru.
Cwpan y Byd Hoci
Roedd y ffaith bod tîm hoci dynion Cymru wedi sicrhau lle ar gyfer Cwpan y Byd FIH - a gynhaliwyd yn Bhubaneswar a Rourkela, India, ym mis Ionawr - yn gamp hanesyddol. Gyda hoci mor boblogaidd yn India, roedd yr holl sylw y byddai’r twrnamaint hwn yn ei gael yn y cyfryngau’n gyfle unigryw i hyrwyddo prifysgolion a cholegau Cymru yn un o'n marchnadoedd allweddol.
Cytunodd Astudio yng Nghymru ar bartneriaeth i gefnogi Hoci Cymru ar eu taith i Gwpan y Byd. Golygodd hyn fod Astudio yng Nghymru’n bartner allweddol mewn gweithgareddau marchnata a chyfathrebu, ac roedd yn cynnwys logo Astudio yng Nghymru’n cael ei arddangos ar flaen crysau'r chwaraewyr dwy gydol y twrnamaint.

Roedd Pennaeth Marchnadoedd a Gweithrediadau Cymru Fyd-eang, Laura Fergusson a Rheolwr Datblygu’r Farchnad ar gyfer India, Harish Lokhun, yn India yn ystod y twrnamaint yn cyfarfod â rhanddeiliaid allweddol yn Bangalore, gan gynnwys darpar bartneriaid C-Camp a Base University, ac mewn cysylltiad ag Uchel Gomisiwn Prydain yn India. Bu Laura a Harish hefyd yn hwyluso digwyddiadau Astudio yng Nghymru gyda thîm hoci dynion Cymru.
Tra yn Bhubaneshwar, er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o Gymru fel cyrchfan astudio, trefnodd Cymru Fyd-eang ddigwyddiad mewn ysgol gyda Hoci Cymru, Llywodraeth Cymru, a Dirprwy Uwch Gomisiynydd Prydain yn Kolkata.
Dydd Gŵyl Dewi
Mae dathlu Dydd Gŵyl Dewi yn golygu bod Mawrth bob amser yn fis prysur ar gyfer cynhyrchu a rhannu deunydd am Gymru, ac nid oedd eleni yn eithriad.
Rhannodd Astudio yng Nghymru fideo wedi'i ffilmio wrth i fyfyrwyr gyrraedd yn ystod Wythnos y Glas, oedd yn cynwys profiadau cyntaf myfyrwyr rhyngwladol o ddysgu Cymraeg. Buom hefyd yn gweithio gyda myfyrwyr rhyngwladol drwy ein cystadleuaeth ffotograffiaeth gyntaf, a oedd yn gofyn am ddelweddau sy’n ymgorffori Cymru ac yn dangos beth sy’n gwneud ein gwlad yn unigryw. Roedd ansawdd y deunydd a gyflwynwyd yn ardderchog gyda'r llun buddugol wedi’i dynnu gan Henna Ashraf o Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae'r ffotograffau buddugol a'r rhai a gyrhaeddodd y rhestr fer i'w gweld yma.
Roeddem hefyd yn teimlo’n gyffrous i gyflawni ein menter bartneriaeth gyntaf gyda thîm Study UK y Cyngor Prydeinig, gan gydweithio i rannu deunydd ar draws y ddau lwyfan i annog darpar fyfyrwyr rhyngwladol i ystyried Cymru fel cyrchfan astudio. Gofynnodd Ymgyrch Wythnos Cymru i fyfyrwyr rhyngwladol gofnodi eu profiadau yn ymgymryd â gweithgareddau ac yn ymweld â lleoedd o ddiddordeb yng Nghymru, gan gynnwys Zip World yng Ngogledd Cymru, tirnodau Caerdydd, Llyfrgell Gladstone a chyfle i archwilio cymoedd De Cymru. Drwy gydol yr ymgyrch, cyfeiriodd yr holl draffig digidol o weithgarwch cyfryngau cymdeithasol taledig ac organig ar draws Study UK ddefnyddwyr at wefan Astudio yng Nghymru.
Ysgoloriaethau a chyn-fyfyrwyr
Ym mis Ebrill, croesawodd Cymru Fyd-eang fyfyrwyr rhyngwladol ar raglenni ysgoloriaeth ym mhrifysgolion Cymru i ddigwyddiad DPP yng Nghaerdydd.
Roedd y digwyddiad deuddydd yn canolbwyntio ar adeiladu rhwydweithiau'r ysgolheigion a datblygu eu sgiliau fel gweithwyr proffesiynol ifanc. Yn ystod yr ymweliad mynychodd yr ysgolheigion sesiwn ar 'arweinyddiaeth mewn cyd-destun byd-eang'; cawsant gyfle i fwynhau cinio a rhwydweithio yn Y Dosbarth yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro, yn ogystal â mynd ar daith bws-dŵr i Fae Caerdydd. Daeth yr ymweliad i ben gyda thaith o amgylch y Senedd, gyda chyfle i gyfarfod â David Rees ASC, Dirprwy Lywydd y Senedd, am sesiwn holi ac ateb. Hoffai Cymru Fyd-eang ddiolch i David Rees am ei amser a'i gyfranogiad yn y digwyddiad.

Mae’r uchafbwyntiau uchod yn dyst i’r gwaith a wneir gan raglen Cymru Fyd-eang, yn ogystal â chydweithwyr a phartneriaid o Gymru, y DU a thramor sy’n helpu i wneud y cyflawniadau hyn yn bosibl.
Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’n holl gydweithwyr ledled Cymru, a phartneriaid cyllido Cymru Fyd-eang, Taith, am eu cydweithrediad dros y misoedd diwethaf. Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda chi wrth i ni symud tuag at y flwyddyn academaidd newydd.