Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar y wefan SMC

I fyfyrwyr sydd â phrofiad o'r system ofal, mae gwneud cais i brifysgol, ynghyd â mynychu a llwyddo ar ôl cyrraedd yno, yn golygu set benodol o heriau.

Mae prifysgolion yng Nghymru wedi canolbwyntio ers tro ar ehangu cyfleoedd a mynediad i addysg uwch ar gyfer unigolion o bob cefndir. 

Felly, sut allwn ni sicrhau bod myfyrwyr sydd â phrofiad o ofal yn cael y gefnogaeth angenrheidiol i wireddu eu potensial?

Roedd hwn yn gwestiwn a gafodd sylw gan Brifysgolion Cymru pan gawsom ein gwahodd i siarad â Phwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd fel rhan o’i ymchwiliad i’r ailwampio arfaethedig ar y system ofal.

Y sefyllfa bresennol ar gyfer myfyrwyr sydd â phrofiad o ofal

Mae pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn fwy tebygol o fod allan o addysg, cyflogaeth a hyfforddiant (NEET) na’r rhai nad ydynt wedi bod mewn gofal. Yn 2019-20, roedd 46.5% o’r rhai oedd wedi bod yn y system ofal yng Nghymru yn NEET, o'i gymharu â dim ond 17% o’r holl bobl ifanc 19-24 oed ledled Cymru.

Mae'r rhai sy'n mynd ymlaen i addysg uwch yn fwy tebygol o wynebu rhwystrau ychwanegol i’w llwyddiant. Mae adroddiad diweddar gan UCAS yn nodi bod myfyrwyr sydd â phrofiad o ofal yn fwy tebygol o adael y brifysgol cyn diwedd eu cwrs, yn llai tebygol o ennill gradd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, ac yn cymryd mwy o amser i gwblhau eu hastudiaethau.

Sut ydyn ni'n mynd i'r afael â'r heriau hyn? 

Yn y brifysgol, gall myfyrwyr sydd â phrofiad o ofal gael mynediad at amrywiaeth o becynnau cymorth. 

Wrth wneud penderfyniadau ynghylch derbyn myfyrwyr, mae prifysgolion yn ystyried statws profiad gofal yr unigolion hynny. Gall arwain at addasiadau fel gofynion mynediad is ar gyfer cyrsiau penodol. 

Gall ymgeiswyr nodi ar eu cais UCAS eu bod wedi cael profiad o’r system ofal, sydd yn ei dro’n cael ei ddwyn i sylw’r timau derbyn sy'n adolygu'r cais.

Ym Met Caerdydd, er enghraifft, rydym yn darparu cymorth i fyfyrwyr cyn iddyn nhw ddechrau eu hastudiaethau yn y brifysgol, gan gynnig y cyfle i ymweld â'r campws, cwrdd â chyswllt staff, a gwneud unrhyw atgyfeiriadau ar gyfer anghenion cymorth cyn ymrestru. 

Unwaith y byddant yn y brifysgol, gall ein myfyrwyr sydd â phrofiad o ofal gael mynediad at becyn cymorth eang, gan gynnwys cyswllt staff penodol i gynnig cymorth a chyfeirio, mentor o blith cymheiriaid i'w helpu i ymgartrefu a llywio bywyd prifysgol, cymorth ariannol, a'r opsiwn o lety am y flwyddyn gyfan.

Rydym hefyd yn archwilio cynnydd yn y fwrsariaeth ar gyfer cymorth ariannol i ystyried chwyddiant.

Mae prifysgolion yng Nghymru hefyd yn perthyn i CLASS Cymru, mudiad sy’n dod â gwasanaethau cymorth myfyrwyr at ei gilydd i godi ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr sydd wedi ymddieithrio a’r rhai sydd wedi cael profiad o ofal ym mhrifysgolion Cymru.

Ffocws allweddol arall o waith CLASS Cymru yw galw am welliannau yn y data a gesglir gan Lywodraeth Cymru i helpu gyda datblygu polisi a deall y darlun cenedlaethol.

Dyma’r pwynt allweddol a bwysleisiwyd gennym ar y cyd yn ein sesiwn dystiolaeth gyda’r Pwyllgor. 

Llenwi'r bylchau data 

Mae'r data sydd ar gael ar hyn o bryd yn gyfyngedig. Ers 2016, nid ydym wedi casglu data ar y rhai sy’n gadael gofal y tu hwnt i’w pen-blwydd yn 16 oed, felly mae’n anodd cael darlun clir o’r cysylltiadau rhwng eu profiad o ofal a deilliannau addysgol. 

Yn Lloegr, cesglir data ynghylch unigolion sydd â phrofiad o ofal ar eu pen-blwydd yn 19, gan ei gwneud yn haws gwerthuso canran y bobl sydd wedi cael profiad o ofal sy'n mynd i addysg uwch bryd hynny. Byddai’r math hwn o ddata yn amhrisiadwy i’n helpu i ddeall y darlun ehangach a datblygu gwasanaethau cymorth yn ôl yr angen. 

Roedd adroddiad UCAS yn argymell y dylai Llywodraeth y DU ddarparu data wedi’i ddilysu ar gyfer plant y gofalir amdanynt ochr-yn-ochr â data prydau ysgol am ddim. Byddai hyn yn caniatáu mwy o effeithlonrwydd yn y broses dderbyn ac yn galluogi sefydliadau i nodi'r rhai sydd mewn angen yn fwy cywir. Awgrymwyd i'r Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru ystyried a ellid cyflawni hyn yng Nghymru.

Wrth wneud cais i brifysgol, gall ymgeiswyr osod tic mewn blwch i nodi eu bod wedi cael profiad o ofal, a chaiff y wybodaeth hon ei throsglwyddo i'r brifysgol fel y gallant gynnig cymorth priodol.

Fodd bynnag, ni fydd pob person sydd â phrofiad o ofal am ddwyn sylw atynt eu hunain yn y modd hwn, nac yn sylweddoli bod hyn yn galluogi eu sefydliad i ddarparu cymorth. Nid yw ychwaith yn ddata 'wedi'i ddilysu', felly ni ellir dibynnu'n llawn arno heb wirio ffeithiau. Mae hyn yn atgyfnerthu'r angen am fwy o ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael yn y brifysgol. 

Newidiadau ar y gorwel

Bydd geirda academaidd ar gais UCAS y Brifysgol nawr yn cynnwys blwch ar gyfer tynnu sylw at amgylchiadau a allai effeithio ar ddeilliannau myfyriwr, gan gynnwys profiad o’r system ofal. 

Mae'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) hefyd yn newid y ffordd y mae'n casglu data ar fyfyrwyr sydd wedi cael profiad o ofal, gan ehangu'r diffiniad o’r 'rhai sy’n gadael gofal' i’r 'rhai sydd â phrofiad o ofal' - cydnabyddiaeth a groesewir o'r ffaith y gall profiad o’r system ofal ar unrhyw adeg mewn bywyd gael effaith ar addysg person. Mae'r data hwn wedi’i  ddilysu a bydd yn galluogi'r sector i fonitro nifer a deilliannau myfyrwyr sydd wedi cael profiad o ofal.

Rhoi cymorth i fyfyrwyr ffynnu

Rwy’n falch o’r gwaith y mae Met Caerdydd yn ei wneud i ddatblygu’r hyna gynigir i fyfyrwyr sydd â phrofiad o ofal. Ac rwy’n falch o fod yn rhan o sector Cymreig sydd wedi ymrwymo i gynnig cymorth i fyfyrwyr sydd â phrofiad o ofal i ffynnu.

Ond heb ddigon o ddata, rydym mewn perygl o gael ein gadael ar ôl. Wrth i nifer y bobl sy'n mynd i mewn i'r system ofal gynyddu, bydd angen i ni ddatblygu ein systemau cymorth yn unol â hynny. 

Mae angen i ni godi ymwybyddiaeth o’r gefnogaeth sydd ar gael. Ond mae angen y data arnom hefyd i ddangos yr angen y gwyddom sy’n bodoli, fel y gallwn ddiwallu’r anghenion hynny a sicrhau bod myfyrwyr yn cael y profiad gorau posibl ym mhrifysgolion Cymru. 

Mae’r Athro Jacqui Boddington yn Ddirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Profiad Myfyrwyr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ac yn aelod o Rwydwaith Dysgu ac Addysgu Prifysgolion Cymru