Taking physics to the masses
Mae ymchwil o Brifysgol Caerdydd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr o ran gwneud pobl yn fwy ymwybodol o seryddiaeth, ac wedi helpu i drawsnewid, y ffordd yr addysgir y pwnc, a’r ffordd mae’r cyhoedd yn meddwl amdano.
O ran y plentyn ysgol cyffredin, gall ffiseg gael ei ystyried, yn aml, yn bwnc diflas, anodd, ac yn bwnc ar gyfer bechgyn yn unig.
Er bod gan gyflogwyr barch mawr at y sawl sydd wedi astudio’r pwnc, ac er bod y pwnc yn lwybr at ystod o yrfaoedd anhygoel, mae disgyblion yn llai tebygol o astudio ffiseg ar gyfer safon Uwch o gymharu â phynciau gwyddoniaeth eraill.
At hynny, dim ond 20 y cant o’r myfyrwyr sy'n dewis ffiseg Safon Uwch sy'n ferched, o gymharu â 50 y cant ar gyfer cemeg a 55 y cant ar gyfer bioleg.
Mae hyn er gwaethaf y ffaith fod merched, pan fyddant yn dewis astudio ffiseg, yn tueddu i ennill gwell graddau na bechgyn yn y pwnc.
Er mwyn mynd i'r afael â'r materion hyn, mae'r Athro Gomez a thîm allgymorth yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth wedi bod yn cynnal rhaglen helaeth o weithgareddau allgymorth dros y 10 mlynedd diwethaf i helpu i egluro'r pwnc a thrawsnewid y ffordd mae pobl yn ei weld.