Defnyddio robotiaid i archwilio ffiniau newydd
Mae technoleg roboteg a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cael ei defnyddio i archwilio ffiniau newydd – o adeiladu modelau o rewlifoedd ymrannol i weithio ar raglenni gofod rhyngwladol.
O ffatrïoedd i ysbytai, y lluoedd arfog i wasanaethau i gwsmeriaid, defnyddir robotiaid bob dydd i'n helpu i weithio'n fwy effeithlon a chywir, ac i gyflawni tasgau sy'n rhy beryglus neu'n rhy anodd i bobl eu gwneud.
Mae’r Grŵp Ymchwil Roboteg Deallus ym Mhrifysgol Aberystwyth yn datblygu technoleg robotig i’w defnyddio mewn llawer o sefyllfaoedd yn y byd go iawn, gan gynnwys o dan y môr a’r holl ffordd i’r gofod.
Mae ymchwil eang y tîm yn cwmpasu meysydd roboteg, opteg, graffeg gyfrifiadurol a gweledigaeth gyfrifiadurol. Er enghraifft, maent wedi gwneud y canlynol:
- gweithio gyda'r diwydiant gofod rhyngwladol ar y rhaglen ExoMars, gan ddatblygu offer newydd i ddarganfod a dehongli gwyddoniaeth blanedol. Mae'r rhain yn cynnwys cerbyd sgowtio crwydrol planedol, efelychydd tirwedd y blaned Mawrth (MTS) ac Efelychydd PanCam Prifysgol Aberystwyth (AUPE).
- datblygu a defnyddio robotiaid arolygu, gan gynnwys cwch i adeiladu modelau 3D o rewlifoedd yn yr Ynys Las, cerbyd cost-effeithiol o faint sach teithio ar gyfer Canolfan Monitro Arfordir Cymru, a cherbyd oddi ar y ffordd i adeiladu modelau 3D o gwelyau afonydd gorlifol yn Seland Newydd.
- ymchwilio i sut mae robotiaid yn dysgu, wedi'u hysbrydoli gan ddatblygiad babanod.
Darganfod y blaned Mawrth
O ganlyniad i waith tîm y Grŵp Ymchwil Roboteg gyda'r diwydiant gofod rhyngwladol, bu’n bosibl i bartneriaid prosiect o ddiwydiant a'r byd academaidd ddatblygu ffyrdd newydd o ddadansoddi data o gamerâu a ddefnyddir i dynnu lluniau o wyneb ac awyr y blaned Mawrth.
Mae partneriaid ymchwil Ewropeaidd sy'n ymwneud â chenhadaeth ExoMars yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd (ESA) yn defnyddio efelychydd tirwedd y blaned Mawrth i gefnogi profion rhag-lansio ar lawr gwlad a datrys problemau yn ystod y daith.
Mae Efelychydd PanCam Prifysgol Aberystwyth wedi helpu i ddatblygu arbenigedd newydd ym maes opteg a delweddu amlsbectrol. Fe'i defnyddir mewn treialon yn y labordy a threialon maes i ddarparu'r data a'r gefnogaeth sydd eu hangen i hyfforddi gweithredwyr ac ymarfer gweithrediadau cenhadaeth. Mae hefyd wedi galluogi partneriaid yn y diwydiant i raddnodi offerynnau ar gyfer cerbydau crwydrol a gwirio’u perfformiad.
Creodd tîm y Grŵp Ymchwil Roboteg y feddalwedd hefyd a ddarparodd ddelweddau 3D manwl o’r blaned Mawrth, a arweiniodd at ddarganfod gweddillion Beagle 2 y Glaniwr Mars (a gollwyd ar ddydd Nadolig 2003).
Ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol
Drwy eu gwaith i annog mwy o ddiddordeb ym maes roboteg, mae tîm y Grŵp Ymchwil Roboteg yn ymweld ag ysgolion a cholegau ledled y DU ac wedi cyfrannu at raglen allgymorth genedlaethol sydd, hyd yma, wedi cyrraedd dros 310,000 o ymwelwyr ag amgueddfeydd gwyddoniaeth ledled y wlad.
Aeth mwy na dwy ran o dair o’r myfyrwyr yng ngharfan gyntaf Clwb Roboteg Aberystwyth ymlaen i astudio cwrs gradd mewn pwnc STEM. Darparodd y clwb hefyd dempled i helpu i sefydlu clybiau roboteg mewn mannau eraill. Mae'r diweddaraf ar gyfer 20 o blant yn Karbala yn Irac, a gwnaed hynny’n bosibl gyda chyllid datblygu rhyngwladol.
“Mae cyfranogiad staff Prifysgol Aberystwyth yn y gwaith o baratoi ExoMars wedi bod, ac yn parhau i fod, yn hanfodol ar gyfer gwella cynlluniau cenadaethau, prosesau, symleiddio gweithrediadau, a dod â ni yn nes at y gobaith, yn y dyfodol agos, o allu dod o hyd i olion bywyd ar y blaned Mawrth.” Yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd
Y tîm ymchwil
Yr Athro Dave Barnes, Dr Fred Labrosse, yr Athro Mark Lee, Dr Helen Miles, Dr Mark Neal, Dr Patricia Shaw, Dr Matt Gunn a’r Athro Qiang Shen – Grŵp Ymchwil Roboteg Deallus Prifysgol Aberystwyth