Lleihau'r risg o halogiad dŵr o danau gwyllt
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe wedi datblygu dulliau i fesur a lliniaru'r risg o halogiad dŵr o danau gwyllt, gan ddod â manteision economaidd ac amgylcheddol sylweddol i wledydd ym mhedwar ban byd.
Bob blwyddyn, mae tanau gwyllt yn llosgi tua 4% o lystyfiant y Ddaear. Oherwydd y gall y lludw o danau gwyllt fod yn gyfoethog mewn llygryddion ac yn agored i erydiad a dŵr ffo, mae'n fygythiad difrifol i gyflenwadau dŵr ac ecosystemau.
Mae ardaloedd sy'n dueddol o fynd ar dân yn darparu dŵr ar gyfer 60% o 100 o ddinasoedd mwyaf y byd a 70% o boblogaeth y DU. Mae tanau gwyllt mawr wedi arwain at gyfyngiadau ar ddŵr yfed, gan effeithio ar filiynau o bobl ac arwain at gostau sylweddol. Yn y DU yn unig, amcangyfrifir bod y diwydiant dŵr yn gwneud colled blynyddol o £16 miliwn oherwydd tanau gwyllt.
Fodd bynnag, ychydig a wyddys am sut i fesur a lliniaru'r risg o halogiad dŵr o danau gwyllt. Aeth y tîm o Abertawe ati i unioni hyn.
Gan weithio gyda gwyddonwyr, gwasanaethau tân, rheolwyr tir a chyflenwyr dŵr yn y DU, Awstralia, Portiwgal, Sbaen ac UDA, cynhaliodd y tîm bum prif faes ymchwil. Gwnaethant y canlynol:
- edrych ar sut i fesur cynhyrchiant lludw tanau gwyllt, ei gynnwys halogi, ymddygiad mewn dŵr ac effaith ar ansawdd dŵr
- datblygu ffordd o feintioli’r lludw a'i ddosbarthiad yn ôl difrifoldeb y tân
- mesur pa ddulliau sy'n gweithio orau i leihau erydiad a chludo'r lludw i gyrff dŵr
- creu fframwaith i ragweld a lliniaru’r risg o halogiad dŵr cyn, yn ystod ac ar ôl tanau gwyllt
- datblygu offeryn modelu ar-lein i fesur symudiad posibl halogion i gyrff dŵr yn dilyn tanau gwyllt gwirioneddol neu bosibl yn y dyfodol.
Manteision amgylcheddol ac economaidd
Mae ymchwil y tîm wedi newid y ffordd mae risgiau amgylcheddol o danau gwyllt yn cael eu hasesu a'u rheoli. Mae’r gwaith wedi gwella gwaith diagnostig ar ôl tanau, rheolaeth tir a darpariaeth dŵr yfed yn Awstralia ac Ewrop, gan ddod â buddion amgylcheddol ac economaidd.
Yn Awstralia, mae ymchwil y tîm wedi gwneud y canlynol:
- arbed costau sylweddol i Water New South Wales (WNSW) pan ganfuwyd y gellid ymdrin â risgiau llygredd gan ddefnyddio’r seilwaith trin dŵr presennol
- helpu WNSW i roi mesurau lliniaru ar waith a oedd yn golygu y gallent barhau i gyflenwi dŵr yfed diogel yn dilyn tanau gwyllt helaeth.
Yn y DU, mae ymchwil y tîm wedi gwneud y canlynol:
- dangos i’r Gwasanaeth Tân ac Achub ble i ganolbwyntio eu pibellau dŵr yn ystod tân gwyllt mwyaf Lloegr ar Saddleworth Moor, gan leihau colli mawn a halogiad oherwydd llosgi ac erydiad
- hysbysu United Utilities am opsiynau lliniaru a ble i osod rhwydi bioddiraddadwy, a oedd yn atal lludw a phridd halogedig rhag erydu i'r gronfa ddŵr
- hysbysu United Utilities am debygolrwydd halogi dŵr yn dilyn tanau posibl yn y dyfodol ac argymell sut i leihau'r risg o halogiad.
Yn Sbaen, mae ymchwil y tîm wedi gwneud y canlynol:
- helpu Cyngor Ynys Tenerife i roi triniaethau gorchudd tir newydd ar waith gan ddefnyddio deunyddiau o goedwigoedd lleol (naddion pren neu domwellt nodwydd pinwydd) i leihau symudiad lludw a phridd halogedig, gan arbed miliynau mewn costau atgyweirio ac arwain at ganllawiau trin erydiad tân newydd ar gyfer yr Ynysoedd Dedwydd.
Y tîm ymchwil
Yr Athro Stefan Doerr, Athro Cyswllt Cristina Santin, Dr Jonay Neris – Prifysgol Abertawe