Diogelu treftadaeth ddiwylliannol ar adegau o wrthdaro
Mae gwaith gan ymchwilydd o Brifysgol Abertawe wedi helpu i gyfrannu at ddulliau o wella’r ffordd mae eiddo diwylliannol yn cael ei ddiogelu mewn gwrthdaro presennol a phosibl.
Ar adeg goresgyniad Irac yn 2003, nid oedd y mater o amddiffyn eiddo diwylliannol (CPP) mewn parthau gwrthdaro yn cael ei gydnabod mewn gwirionedd gan y lluoedd arfog, llywodraethau na'r cyhoedd. Felly, nid oedd yna bolisi CPP gwirioneddol.
Er i ymwybyddiaeth o CPP gynyddu yn dilyn rhyfel Irac, nid oedd tystiolaeth hanesyddol hollbwysig o 1943-45 yn hysbys i lawer o bersonél milwrol. Ychydig iawn o ymgysylltiad academaidd a gafwyd â CPP milwrol hefyd.
Aeth yr Athro Cyswllt Nigel Pollard o Brifysgol Abertawe ati i wella dealltwriaeth o CPP trwy rannu canfyddiadau allweddol o'i ymchwil hanesyddol ac archeolegol.
Cyfrannu at CPP mewn parthau gwrthdaro
Roedd gwaith ymchwil Pollard yn defnyddio profiadau’r rhyfel i gyfrannu at CPP cyfoes mewn parthau gwrthdaro. Edrychodd ar y canlynol:
- creu, blaenoriaethu a dosbarthu dogfennaeth a gwybodaeth ar safleoedd fel 'deallusrwydd diwylliannol' ar gyfer rhestrau 'dim bomio' a rhestrau eiddo cenedlaethol
- y rhesymau dros wahanol achosion o ddifrod i eiddo diwylliannol, gan gynnwys dinistrio ideolegol bwriadol, difrod cyfochrog ac ysbeilio a’r ymateb i’r rhain
- dehongli a chymhwyso cyfraith ryngwladol sy'n ymwneud â CPP
- cydberthnasau rhwng y lluoedd arfog, academyddion, gweithwyr treftadaeth proffesiynol a rhanddeiliaid eraill
- CPP wrth baratoi'n rhagweithiol ar gyfer gwrthdaro a chynllunio gweithredol yn ystod y cyfnod hwnnw
- lleoli arbenigwyr CPP milwrol o fewn strwythurau milwrol ac yn y maes gweithrediadau
- pwysigrwydd addysg, hyfforddiant a disgyblaeth wrth hyrwyddo CPP ymhlith personél milwrol.
Edrychodd Pollard hefyd ar bryderon gweithwyr treftadaeth sifil proffesiynol o ran sut i ddiogelu a chysgodi casgliadau amgueddfeydd ac orielau gwag.
Yn ogystal, cyfrannodd fel arbenigwr i restrau milwrol dim bomio a bu’n mentora academyddion o Syria a oedd yn ffoaduriaid wrth iddynt ymchwilio i ddifrod i safleoedd diwylliannol yn eu mamwlad.
Newid ymagweddau cenedlaethol a rhyngwladol at CPP
Newidiodd gwaith Pollard ymagweddau yn y DU ac yn rhyngwladol at CPP mewn gwrthdaro presennol a phosibl. Gwnaeth y canlynol:
- gweithredu fel cynghorydd arbenigol ar gyfer creu a hyfforddi Uned Diogelu Eiddo Diwylliannol milwrol y DU (CPPU)
- gwahoddwyd ef i ymuno â’r CPPU fel swyddog ‘Grŵp B’ wrth gefn, statws a ddefnyddir gan luoedd arfog y DU ar gyfer uwch-gynghorwyr sifil gyda sgiliau ac arbenigedd arbenigol
- codi proffil CPP ymhlith y gymuned filwrol a diogelwch ehangach trwy ddigwyddiadau a gweithdai a gynhaliwyd gan NATO ac Academi Amddiffyn y DU
- helpu i lywio polisïau’r llywodraeth yn ymwneud â CPP trwy ei aelodaeth o Blue Shield (y ‘Groes Goch’ ar gyfer eiddo diwylliannol)
- helpu i greu, ffurfio a gweithredu Cronfa Diogelu Diwylliannol y DU (CPF) sy’n cefnogi ymdrechion i ddiogelu treftadaeth ddiwylliannol sydd mewn perygl mewn gwledydd gan gynnwys Syria ac wedi gwasanaethu fel aseswr ar gyfer ceisiadau CPF
- helpu i lywio a dylanwadu ar randdeiliaid a chynulleidfaoedd cyhoeddus ehangach ar fater CPP trwy gyflwyniadau a sylw yn y cyfryngau, gan gynnwys ar wefan Newyddion y BBC.
O ganlyniad, mae ei waith wedi gwella gallu lluoedd milwrol y DU a NATO i gadw eiddo diwylliannol o bwys hanesyddol yn eu gweithrediadau tramor.
Y tîm ymchwil
Yr Athro Cyswllt Nigel Pollard – Prifysgol Abertawe