Beth sy'n gwneud athletwr uwch-elît?
Mae ymchwil gan Brifysgol Bangor wedi gwella ein dealltwriaeth o sut mae talent chwaraeon yn datblygu, gan arwain at wella rhaglenni datblygu talent cenedlaethol.
Pam mae un athletwr elît yn ennill medal aur ar ôl medal aur tra bod eraill, sy'n ymddangos yn gyfartal o ran talent a chyfle, yn methu â gwneud hefyd?
Comisiynodd UK Sport – asiantaeth y llywodraeth sy'n gyfrifol am fuddsoddi mewn chwaraeon Olympaidd a Pharalympaidd yn y Deyrnas Unedig – dîm ymchwil, dan arweiniad Prifysgol Bangor, i ymchwilio i'r gwahaniaethau rhwng athletwyr uwch-elît sy'n ennill medalau dro ar ôl tro a'u cyd-chwaraewyr elît.
Bu’r tîm ymchwil o Fangor yn gweithio ar brosiect Great British Medalists (GBM) gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Caerwysg. Fe wnaethon nhw gymharu bywydau 32 o gyn-Olympiaid Prydain Fawr a oedd yr un fath o ran eu camp, rhyw, disgyblaeth a chyfnod. Roedd y grŵp yn cynnwys:
- 16 o athletwyr uwch-elît a enillodd sawl medal aur mewn mwy nag un Gemau Olympaidd neu bencampwriaeth y byd
- 16 o athletwyr elît a oedd wedi ennill medalau ond ddim mewn pencampwriaeth fawr.
Bu'r tîm ymchwil yn cyfweld â'r athletwyr am bob agwedd ar eu datblygiad a'u gyrfa. Buont hefyd yn cyfweld â hyfforddwyr a rhieni'r athletwyr.
Dealltwriaeth newydd o dalent chwaraeon
Arweiniodd prosiect GBM at ddealltwriaeth newydd o beth yw talent chwaraeon a sut mae'n datblygu.
Canfu ymchwilwyr fod athletwyr uwch-elît yn fwy tebygol nag athletwyr elît o fod wedi:
- cael profiad bywyd negyddol sylweddol yn ystod blynyddoedd eu datblygiad
- bod yn ddidostur a digyfaddawd wrth ddilyn eu gyrfa chwaraeon
- dod yn ôl o nam perfformiad difrifol yn ystod oedolaeth
- cael trobwynt arwyddocaol yn eu gyrfa a’u gwnaeth yn fwy penderfynol o ragori
- parhau i wella eu perfformiad yn ystod oedolaeth.
Rhannodd y tîm eu canfyddiadau trwy 10 gweithdy ar draws y DU ar gyfer penaethiaid chwaraeon, cyfarwyddwyr perfformiad, hyfforddwyr rhaglen a rheolwyr llwybrau. Yn eu tro, cafodd trafodaethau’r gweithdai eu rhannu â phanel cynghori arbenigol a ddatblygodd strategaeth ar gyfer UK Sport i weithredu a lledaenu canlyniadau'r astudiaeth.
Cynhaliwyd 10 prosiect peilot hefyd gyda chyrff llywodraethu cenedlaethol unigol a grwpiau eraill â diddordeb arbennig .
Gwella rhaglenni datblygu talent
Gwnaeth y prosiect dynnu sylw at bwysigrwydd iechyd meddwl athletwyr. Arweiniodd at benodi Changing Minds (cwmni o seicolegwyr clinigol) i helpu cyrff llywodraethu cenedlaethol i gefnogi llesiant meddyliol athletwyr yn well.
O ganlyniad i ganfyddiadau'r ymchwil, gwnaeth UK Sport newidiadau i ddatblygiad athletwyr, ac fe wnaeth pob un o'r 42 o gyrff llywodraethu cenedlaethol UK Sport wella eu rhaglenni datblygu talent.
Mae fersiynau o’r prosiect ar gyfer campau penodol hefyd wedi’u cwblhau ar gyfer Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, Undeb Rygbi Pêl-droed a Thriathlon Prydain.
Y tîm ymchwil
Yr Athro Lew Hardy, Dr Matt Barlow a’r Athro Tim Woodman – Prifysgol Bangor
Partneriaid ymchwil
UK Sport, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Caerwysg