Bydd yn olynu’r Athro Medwin Hughes, DL, a fydd yn ymddeol ar ôl gwasanaethu yn y swydd am 23 o flynyddoedd. Bydd yn dechrau yn ei rôl yn Ddarpar Is-Ganghellor ym mis Mehefin gan gymryd yr awenau fel Is-Ganghellor gan yr Athro Hughes ym mis Medi.

Ar hyn o bryd, yr Athro Elwen Evans, KC, yw Dirprwy Is-Ganghellor a Deon Gweithredol ar gyfer Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Abertawe gyda chyfrifoldeb am yr Iaith a Diwylliant Cymraeg yn y Brifysgol.

Dywedodd yr Athro Evans, arweinydd benywaidd cyntaf y prifysgolion a’r sefydliadau a’u rhagflaenodd:  “Mae’n anrhydedd mawr i mi gael fy mhenodi i rôl Is-Ganghellor Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Edrychaf ymlaen at weithio gyda chydweithwyr, myfyrwyr a llywodraethwyr yn y Brifysgol a gyda phartneriaid allanol i sicrhau llwyddiant parhaus y ddau sefydliad uchel eu bri.”

Dywedodd yr Hybarch Randolph Thomas, Cadeirydd Cynghorau’r Prifysgolion: “Rwyf i wrth fy modd fod yr Athro Elwen Evans, KC, wedi’i phenodi i rôl Is-Ganghellor Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.  Mae’r Athro Evans wedi mwynhau gyrfa ddisglair ym maes y gyfraith ac yn y byd academaidd ac rydym yn edrych ymlaen at ei harweinyddiaeth yn y sefydliadau hanesyddol hyn”.

Ychwanegodd Emlyn Dole, Darpar Gadeirydd Cyngor y Brifysgol: “Llongyfarchiadau diffuant i Elwen Evans ar gael ei phenodi’n Is-Ganghellor. Edrychaf ymlaen yn fawr at gydweithio gyda hi i gyflawni cenhadaeth y Brifysgol, sef trawsnewid addysg a bywydau’r unigolion a’r cymunedau rydym ni’n eu gwasanaethu”.

Ategodd yr Athro Medwin Hughes, DL,: “Hoffwn longyfarch yr Athro Evans ar ei phenodiad a dymunaf yn dda iddi yn y swydd. Mae hi’n adnabyddus fel arweinydd creadigol a deinamig sydd â hanes amlwg o gyflenwi rhaglenni trawsnewid, newid diwylliannol a datblygu strategol llwyddiannus. 

Mae hi’n ymuno â sefydliadau nad ydynt erioed wedi ofni newid. Lles y genedl sydd wrth wraidd taith drawsnewidiol Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Bydd yr Is-Ganghellor newydd yn parhau â’r gwaith i sefydlu Prifysgol newydd i Gymru. Gallaf ei sicrhau y gall ddibynnu ar gefnogaeth lawn y Prifysgolion wrth iddi ddechrau ar y bennod newydd gyffrous hon yn hanes ein sefydliadau.”

Mae Prifysgolion Cymru'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Athro Evans yn ei rôl newydd fel Is-Ganghellor Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.