“Rydym yn croesawu’r cyhoeddiad heddiw bod yr Athro Fonesig Julie Lydon a’r Athro David Sweeney wedi’u penodi’n Gadeirydd ac yn Ddirprwy Gadeirydd Bwrdd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CADY).  

“Mae profiad yr Athro Lydon ar draws addysg ôl-16, ac mewn busnes, yn ei gosod mewn sefyllfa unigryw i lywio heriau a chyfleoedd system addysg drydyddol Cymru er mwyn sicrhau’r deilliannau gorau i ddysgwyr, sefydliadau a’r wlad yn gyffredinol. 

 “Mae’r Athro Sweeney yn ymuno â’r Comisiwn ar ôl bod yn Gadeirydd Gweithredol Research England o’i sefydlu o fewn UKRI (Ymchwil ac Arloesedd y DU). 

“Yn y rôl hon, mae’r Athro Sweeney wedi dangos cryn ymrwymiad i ymchwil ac arloesedd, yn ogystal â dealltwriaeth gref o’r rôl hollbwysig y maent yn ei chwarae yn ein cymdeithas, profiad a fydd yn ychwanegiad gwerthfawr at waith y Comisiwn. 

“Mae gan yr Athro Lydon a’r Athro Sweeney y profiad a’r arbenigedd i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer sector addysg ôl-16 cydgysylltiedig yng Nghymru, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw, a’r Comisiwn ehangach, i sicrhau bod ein system yn parhau i weithio ar gyfer pobl a lleoedd Cymru.” 

DIWEDD 

Nodiadau i'r golygydd 

  1. Gwasanaethodd yr Athro Lydon fel Cadeirydd Prifysgolion Cymru yn flaenorol, gan roi’r gorau i’r rôl ym mis Awst 2021. Yn ystod ei hamser fel Cadeirydd chwaraeodd ran sylweddol yng nghymdeithas ac economi Cymru, gan lywio sector addysg uwch Cymru drwy gyfnod o ddiwygio a phandemig, yn ogystal â gwneud cyfraniad enfawr i addysg uwch yn y DU yn ehangach drwy waith gyda’r CBI ac UUK ar ddarpariaeth sgiliau.  
  2. Prifysgolion Cymru yw'r corff sy'n cynrychioli prifysgolion yng Nghymru, ac mae'n un o Gynghorau Cenedlaethol sefydliad Prifysgolion y DU. Mae aelodaeth Prifysgolion Cymru yn cwmpasu Is-Gangellorion holl brifysgolion Cymru, a Chyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru. Ein cennad yw cynnig cymorth i system addysg prifysgol sy'n trawsnewid bywydau trwy'r gwaith y mae prifysgolion yng Nghymru’n ei wneud gyda phobl a lleoedd Cymru a'r byd ehangach. www.uniswales.ac.uk 

Cyswllt ar gyfer y Cyfryngau: 

Jodi Cox 
Swyddog Cyfathrebu ac Ymgyrchoedd 
Press@uniswales.ac.uk 
07788 270407