Datganiad ar gyfranogiad yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF)
Mae Prifysgolion Cymru wedi cyhoeddi datganiad ar gyfranogiad yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF):
12 September 2022
“Mae gan Gymru agwedd unigryw at ansawdd, gyda’i dull ei hun yn cael ei adolygu a’i ddatblygu ers 2013/14 trwy Adolygiad Addysg Uwch Cymru (HERW). Mae’r agwedd hon yn cyfuno elfennau o bob rhan o’r DU i ddarparu system sy’n cydnabod sicrwydd a gwelliant. Mae Cymru wrthi ar hyn o bryd yn datblygu dull newydd ar gyfer adolygu gwella ansawdd, a fydd yn adeiladu ar ein harferion presennol ac arferion gorau o bob rhan o’r byd.
"Yn ddiweddar cyhoeddodd y Swyddfa Myfyrwyr (OfS) yn Lloegr ymgynghoriad ar y model diwygiedig ar gyfer y fframwaith rhagoriaeth addysgu (TEF). Mae hyn yn orfodol yn Lloegr ac yn ddewisol ar gyfer prifysgolion yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae'r Swyddfa Myfyrwyr yn bwriadu i TEF chwarae rhan allweddol yn y gwaith o reoleiddio prifysgolion Lloegr yn y dyfodol.
“Mae wedi dod yn amlwg wrth i ni symud at ddull sy’n canolbwyntio mwy ar welliant, nad yw hyn bellach yn gydnaws â methodoleg TEF a’r ymagwedd sy’n seiliedig ar fetrigau y mae OfS yn ei dilyn. Ar ôl ystyried y TEF yn ofalus, mae’r prifysgolion yng Nghymru wedi penderfynu peidio â chymryd rhan (ac eithrio’r Brifysgol Agored yng Nghymru, gan ei bod yn ofynnol iddi gydymffurfio, a bodloni’r gofynion ansawdd ar draws pob awdurdodaeth reoleiddiol).
"Mae Cymru'n rhoi gwerth ar fyfyrwyr fel partneriaid; felly hefyd gweithgarwch gwella ansawdd, data ansoddol ac ymagwedd wedi’i chyfoethogi at ddarpariaeth gydweithredol dramor, ac edrychwn ymlaen at weithio ar y cyd i adeiladu ar arfer presennol a datblygu ein dulliau gwella ansawdd ymhellach."
Wrth wneud sylwadau ar safbwynt Prifysgolion Cymru, dywedodd Dr David Blaney, Prif Weithredwr CCAUC:
“Mae’r system reoleiddio yng Nghymru yn gynyddol wahanol i’r system yn Lloegr. Mae gan Gymru ymagwedd at wella ansawdd sydd wedi’i hen sefydlu, gyda ffocws cryf ar bartneriaeth â myfyrwyr. Ein barn ni yw bod hyn yn diwallu anghenion myfyrwyr mewn ffordd na all y TEF, ac felly rydym yn cefnogi’r penderfyniad hwn gan Brifysgolion Cymru.”