Tîm hoci cenedlaethol Cymru yn cael cefnogaeth gan Astudio yng Nghymru ar gyfer Cwpan y Byd 2023
Mae Astudio yng Nghymru wedi ei gadarnhau fel prif noddwr tîm hoci dynion Cymru wrth iddynt baratoi i gystadlu yng Nghwpan Hoci’r Byd 2023 am y tro cyntaf yn eu hanes.
4 August 2022
Ar ôl sicrhau eu lle ar eu tomen eu hun yng Ngemau Rhagbrofol Cwpan y Byd ym mis Hydref 2021, bydd y tîm yn cystadlu yn Bhubaneswar (caiff ei ynganu fel bŵ ·ba·ny·shwâ) a Rourkela, India.
Mae’r bartneriaeth rhwng Hoci Cymru ac Astudio yng Nghymru’n seiliedig ar yr awydd cyffredin i ysbrydoli newid, a bydd yn arwain at gefnogaeth i dimau Cymru y tu hwnt i Gwpan y Byd. Mae’r naill sefydliad a’r llall yn gefnogol iawn i hyrwyddo Cymru fel gwlad sydd â ffocws cryf ar gydraddoldeb, amrywioldeb, a chynhwysiant.
Bydd Cymru’n ymuno â gwledydd hoci gorau’r byd, gan gynnwys India, yr Almaen, Lloegr, yr Iseldiroedd ac Awstralia yn y gystadleuaeth, sy’n cael ei chynnal rhwng 13eg a 19eg Ionawr 2023.
Meddai Ria Burrage-Male, Prif Weithredwr Hoci Cymru: “Mae Hoci Cymru wedi bod ar daith anhygoel hyd yn hyn. Mewn dim ond chwe blynedd, mae'r Dynion wedi symud i fyny o safle 36 i’r 15fed yn y byd, a hynny gydag adnoddau cyfyngedig. Mae cyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf erioed yn gyflawniad anhygoel, ac yn adlewyrchiad o ymdrechion pawb sydd wedi cymryd rhan.”
Mae Astudio yng Nghymru yn rhan o bartneriaeth Cymru Fyd-eang ac yn cynrychioli prifysgolion a cholegau yng Nghymru. Mae’r brand Astudio yng Nghymru yn rhan greiddiol o strategaeth Cymru Fyd-eang i hyrwyddo Cymru i’r byd, drwy feithrin partneriaethau a rhannu cyfleoedd astudio.
Meddai’r Athro Iwan Davies, Cadeirydd Cymru Fyd-eang: “Mae myfyrwyr rhyngwladol yn chwarae rhan amhrisiadwy mewn cynyddu amrywioldeb a rhyngwladoli campysau prifysgolion a chymunedau Cymru ar adeg pan mae cynnal meddylfryd rhyngwladol yn bwysicach nag erioed.
“Mae’r bartneriaeth hon yn gam arall i’w groesawu ar gyfer Astudio yng Nghymru, diplomyddiaeth chwaraeon a datblygiad parhaus ein perthynas ag India. Mae’n fenter gadarnhaol i brifysgolion Cymru, gan alluogi’r sector i gyrraedd cynulleidfaoedd rhyngwladol drwy hoci ar lwyfan y byd.
“Mae ein rhan yng Nghwpan Hoci’r Byd yn creu hyd yn oed mwy o gyfle i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan astudio ac annog myfyrwyr o India i fanteisio ar y cyfleoedd unigryw sydd ar gael ym mhrifysgolion Cymru i ddatblygu’r sgiliau a’r galluoedd y mae cyflogwyr heddiw yn chwilio amdanynt.”
Ychwanegodd Ria Burrage-Male: “Rydym yn falch iawn o fod yn bartner i Astudio yng Nghymru, brand Cymreig o'r un anian â ni ac sydd, fel Hoci Cymru, yn ymroddedig i sicrhau bod gan Gymru safle amlwg ar y llwyfan byd-eang gan arddangos doniau a chyfleoedd y wlad. Mae synergedd naturiol rhwng y ddau sefydliad; mae gennym ni chwaraewyr a staff sy’n fyfyrwyr cyfredol ac yn gyn-fyfyrwyr prifysgolion Cymru, sy’n gallu siarad yn frwdfrydig am eu profiadau o’r hyn y mae astudio yng Nghymru yn ei olygu.
Ar gyfer Cwpan y Byd, i ddod ag addysg a chwaraeon at ei gilydd, bydd y bartneriaeth hefyd yn cynnwys ymgysylltu â Hoci Cymru, myfyrwyr a staff ysgolion o amgylch y twrnamaint yn India. Mae gan hoci maes dros 2 biliwn o ddilynwyr ledled y byd; caiff y gêm ei chwarae mewn dros 100 o wledydd ac mewn llawer iawn o ysgolion. Disgwylir i’r ffigurau ar gyfer cynulleidfa’r digwyddiad gyrraedd tua 12.4 miliwn.
Mae’r berthynas rhwng Hoci Cymru ac Astudio yng Nghymru hefyd yn cael ei chryfhau gan y berthynas â’r chwaraewyr eu hunain. Astudiodd sawl aelod o garfan y dynion a'r menywod ym mhrifysgolion Cymru, ac mae capten tîm y dynion Luke Hawker yn cael ei gyflogi fel uwch ddarlithydd mewn Hyfforddi Chwaraeon ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Meddai Luke: “Mae prifysgolion Cymru yn datblygu’r gamp yn barhaus ar lefel elît ac er mwyn cael hwyl, gan greu cymuned ysbrydoledig a chynhwysol o athletwyr hoci ledled y wlad. Mae cyfleusterau o'r radd flaenaf a chefnogaeth aruthrol gan y gyfadran yn cyfrannu'n sylweddol at lwyddiant chwaraeon Cymru.
“Rydym hefyd yn gwybod yn uniongyrchol am yr ymdrech y mae ein prifysgolion yn ei gwneud, er mwyn darparu sylfaen ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol ym mywydau personol a phroffesiynol pobl, yn ogystal ag ar y maes chwarae.”
Mae dynion Cymru yn mynd benben ag India ar 4ydd Awst 2022 yng Ngemau'r Gymanwlad, a fydd yn rhoi rhagflas o'r hyn sydd i ddod yng Nghwpan Hoci'r Byd y flwyddyn nesaf, ac edrychwn ymlaen yn eiddgar am hynny.