Mae Cyfres Genedlaethol Gwobrau Cychwyn Busnes yn fenter ar y cyd rhwng sylfaenwyr Gwobrau Entrepreneuriaeth Prydain a Gwobrau Cychwyn Busnes Cymru, sef yr unig wobrau rhanbarthol sy’n dathlu busnesau newydd yn y DU ar hyn o bryd.

Meddai’r Athro Elizabeth Treasure, Cadeirydd Prifysgolion Cymru:

“Rydym yn falch iawn o noddi Gwobr Graddedigion sy’n Cychwyn Busnes unwaith eto a dangos ein cefnogaeth i’r dalent entrepreneuraidd sy’n dod allan o brifysgolion Cymru.

“Mae busnesau newydd sy’n cael eu sefydlu gan raddedigion yn rhan hanfodol o economi Cymru. Mae ein prifysgolion yn gwneud gwaith rhagorol yn cefnogi graddedigion sy’n entrepreneuriaid wrth iddynt sefydlu busnesau newydd, a gallwn fod yn falch yng Nghymru fod gennym y gyfran uchaf o fusnesau newydd wedi’i sefydlu gan raddedigion y pen yn y DU.

Mae taith pawb o ran eu menter newydd yn wahanol, ond  maent i gyd yn rhannu brwdfrydedd ac ysbryd entrepreneuriaeth y dylid ei hyrwyddo a’i ddathlu.

“Wrth i’r wlad adeiladu’n ôl ar ôl Covid, bydd meithrin a datblygu’r sector busnesau newydd sydd wedi’u sefydlu gan raddedigion yn hollbwysig i adferiad Cymru ac wrth greu economi fywiog ac amrywiol.”

Dysgwch fwy am y gwobrau