“Mae prifysgolion yn chwarae rhan sylfaenol wrth yrru economi Cymru a chefnogi cymunedau. Maent yn trawsnewid bywydau, yn creu cyfleoedd ac yn hyrwyddo twf busnesau newydd.

“Mae’r Papur Gwyn ar Lefelu i Fyny yn cynnwys llawer iawn o fanylion, a bydd yn cymryd amser i weithio trwyddynt.

“Fodd bynnag, mae’n rhaid i ni bwysleisio bod angen eglurder ar frys ar brifysgolion yng Nghymru ynglŷn â’r arian a ddaw yn lle cyllido strwythurol yr UE. Cadarnhaodd Llywodraeth y DU yn adolygiad gwariant mis Hydref eu hymrwymiad i gynnig arian fyddai’n cyfateb i’r hyn a dderbyniwyd ar ffurf cyllido strwythurol yng Nghymru. Mae’n anodd canfod yn y papur gwyn sut y bydd yr arian hwn yn cael ei ddarparu.

“Rydym hefyd yn awyddus i ddeall y broses a ddefnyddiwyd i nodi’r ardaloedd ar gyfer y cynllun peilot i gyflymu arloesedd. Mae gan brifysgolion Cymru gryfderau ymchwil ac arloesi amrywiol, maent wedi cynnal gweithgarwch cyfnewid gwybodaeth arloesol trwy gydweithrediadau rhwng nifer o brifysgolion ac maent wedi’u gwreiddio mewn cymunedau sy’n cynnwys ardaloedd economaidd ffyniannus yn ogystal â rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig y DU. Mae’n siomedig nad yw Cymru wedi’i chynnwys yn y rhaglen beilot hon a byddem yn eu hannog i ailystyried hyn.”