Prifysgolion Cymru yn arwain y ffordd o ran cefnogi diwygiadau mewn addysg uwch yn Fietnam
Mae prifysgolion Cymru yn arwain y ffordd wrth gefnogi diwygiadau o ran arweinyddiaeth a llywodraethiant mewn addysg uwch yn Fietnam, diolch i gyllido diweddar trwy raglen Partneriaethau ‘Mynd yn Fyd-eang’ y Cyngor Prydeinig.
3 February 2022
Roedd dau brosiect llwyddiannus o Gymru yn cyfrif am 25% o'r holl grantiau a ddarparwyd trwy’r rhaglen, gan danlinellu profiad, ymrwymiad ac ymroddiad y sector i weithio ar bartneriaethau a threfniadau cydweithredu rhyngwladol. Diolch i'r cyllido, mae pump o’r wyth prifysgol sydd yng Nghymru bellach yn ymwneud â phrosiectau gyda phartneriaid yn Fietnam – un o'r economïau sy'n tyfu gyflymaf yn y byd.
Bydd y ddau brosiect sy’n cael eu hariannu – un dan arweiniad Cymru Fyd-eang a’r llall gan Brifysgol Fetropolitan Caerdydd – yn canolbwyntio ar gynorthwyo addysg uwch Fietnam i ddatblygu eu harferion arweinyddiaeth a llywodraethiant mewn modd sy’n gynhwysol ac yn canolbwyntio ar gydraddoldeb rhywedd, yn ogystal ag Addysg Drawswladol ( TNE) a sicrhau ansawdd.
Mae'r rhaglen yn cydbwyso buddiannau'r holl gyfranogwyr, gan ei bod yn caniatáu i sefydliadau addysg uwch Fietnam ddatblygu eu harfer mewn meysydd blaenoriaeth allweddol fel y nodwyd gan Weinyddiaeth Addysg a Hyfforddiant Fietnam (MOET) a Banc y Byd.
Meddai Gwen Williams, Pennaeth Rhyngwladol, Prifysgolion Cymru:
“Mae’r ffaith bod prifysgolion Cymru wedi perfformio mor dda yn y rownd gyllido hon yn dyst i’r perthnasoedd cryf sydd wedi’u datblygu rhwng ein sefydliadau a’n llywodraethau yn y blynyddoedd diwethaf. Mae'r partneriaethau hirsefydlog hyn, sydd o fudd i'r naill ochr a’r llall, wedi paratoi'r ffordd ar gyfer y llwyddiant hwn.
“Bydd y prosiectau’n caniatáu i brifysgolion yng Nghymru weithio gyda phartneriaid o Fietnam i rannu a datblygu arferion arweinyddiaeth a llywodraethiant tra’n darparu llwyfan ar gyfer cydweithio yn y dyfodol. Mae’n dangos brwdfrydedd ac ymrwymiad Cymru i bartneriaeth hirdymor gyda Fietnam.”
Bydd prosiect Cymru Fyd-eang yn dilyn model cynyddu capasiti, gyda’r pedair prifysgol yng Nghymru (Aberystwyth, Caerdydd, Abertawe a Phrifysgol De Cymru) yn cael eu paru â phartneriaid o Fietnam dros y ddwy flynedd nesaf i rannu, datblygu a meithrin arferion a pholisi arweinyddiaeth a llywodraethiant.
Mae Cymru Fyd-eang yn edrych ymlaen at rannu mwy o ddiweddariadau a deilliannau o'r rhaglen wrth iddi ddatblygu.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Bill Burson