Drwy ddefnyddio eu rhwydweithiau rhyngwladol, mae prifysgolion wedi gallu rhannu arbenigedd a gwybodaeth hanfodol i greu dulliau arloesol o ymateb i’r pandemig; nid dim ond er ein budd ni yma yn y DU, ond i gynnig cymorth i wledydd incwm is yn ogystal.

Mae staff o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi bod yn siarad â phartneriaid mewn Ysbyty yn Wuhan i ddysgu o’u profiadau yn ystod y pandemig. Agorodd y Brifysgol ganolfan feddygaeth ar y cyd ddwy flynedd yn ôl er mwyn hyrwyddo ymchwil clinigol a gwyddorau bywyd, yn ogystal â hwyluso rhaglenni cyfnewid a chydweithredu ymysg myfyrwyr a staff. Arweiniodd y cysylltiadau hynny at drafodaeth o bell lwyddiannus a roddodd gyfle i glinigwyr o Gymru, sydd ar flaen y gad ar hyn o bryd yn y frwydr yn erbyn y pandemig, gyfnewid profiadau a dysgu gan staff a fu’n delio â COVID-19 yn ystod ei gamau cynharaf. Trefnwyd y drafodaeth o bell gan bennaeth yr Ysgol Feddygaeth, yr Athro Keith Lloyd a’r Athro Richard Evans, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a’r gobaith nawr yw y bydd hyn yn mynd ymlaen i sbarduno cydweithredu pellach wrth i’r pandemig barhau.

Mae ymchwilwyr yn Ysgol Dechnolegau Prifysgol Fetropolitan Caerdydd yn ymchwilio i sut mae COVID-19 yn lledaenu. Mae’r tîm yn defnyddio data tywydd, er enghraifft, o 6 gwlad i fodelu a rhagweld lledaeniad y feirws yn y dyfodol.

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth yn gweithio ar dechneg i wella profion ar gyfer Coronafeirws mewn gwledydd incwm isel. Nid oes gan wledydd yn Ne America ac Asia fynediad at labordai ac offer arbenigol drud, ac mae ymchwilwyr yn y brifysgol wedi bod yn datblygu offer cludadwy y gellid ei ddefnyddio mewn lleoedd o’r fath. Mae Dr Arwyn Edwards, Uwch Ddarlithydd mewn Bioleg yn yr Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi bod yn arbrofi gyda’r dulliau amgen hyn ar gyfer cynnal profion.  Mae’r ymchwil yn cael ei drefnu a’i ariannu gan Ganolfan er Ymchwil i Ddatblygu Rhyngwladol yn y brifysgol drwy Gronfa Ymchwil Heriau Byd-eang Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Fel rhan o’r prosiect, mae’r ymchwil yn tynnu ar arbenigedd cydweithwyr ar draws Prifysgol Aberystwyth, gan weithio gyda rhwydweithiau sefydledig o bartneriaid rhyngwladol ac arbenigwyr mewn bioleg gyfrifiadol a chlefydau anadliadol.

Yn y Ganolfan er Gwella Dysgu ac Addysgu (CELT) ym Mhrifysgol De Cymru, mae Dr Cath Camps yn gweithio gyda Chyngor yr Academyddion sy’n Wynebu Risg (CARA) drwy ddatblygu Grwpiau Buddiannau Arbennig ar-lein ar gyfer y rhai sy’n gweithio yn y Celfyddydau a’r Dyniaethau mewn Prifysgolion yn Nhwrci a Syria. Mae PDC wedi bod yn rhoi cefnogaeth i CARA ers blynyddoedd lawer. Mae’r gwaith presennol yn canolbwyntio ar gainc newydd o weithgaredd a ariennir gan Sefydliad Mellon i roi cymorth i academyddion ym maes y Celfyddydau a’r Dyniaethau yn Syria. Fel arfer mae’r gwaith hwn yn digwydd ar ffurf cymorth ar-lein gyda gweithdai wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal yn Istanbul. Fodd bynnag, yn ystod y pandemig COVID-19 cyfredol mae’r gwaith hwn yn cael ei drosglwyddo’n gyfangwbl ar-lein. Yn ogystal, mae PDC ar hyn o bryd yn ymgymryd â chryn lawer o waith er mwyn galluogi academyddion o Syria i gael gafael ar e-adnoddau, fel y gallant barhau i gadw mewn cysylltiad â’r gymuned ymchwil ryngwladol. Mae’r prosiect hwn yn helpu i gynnal cysylltedd ar gyfer y grŵp hwn o gyd-ysgolheigion yn ystod yr argyfwng.

Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor yn cyfuno eu harbenigedd gyda gwyddonwyr o bob cwr o’r byd i ddatblygu ffyrdd newydd o fonitro lefelau’r feirws mewn dŵr gwastraff. Mae’r Athro Davey Jones yn arwain y grŵp ymchwil i gynnal profion am y feirws gan ddefnyddio dŵr gwastraff, a fydd yn ddangosydd pwerus o achosion o’r clefyd ar unrhyw adeg. Bydd hyn yn galluogi’r tîm i ddarparu gwybodaeth bron iawn mewn amser real am nifer yr achosion o Covid-19 ym mhoblogaeth y DU. Yn y tymor hir, gellir defnyddio’r dull hwn i fonitro feirysau sy’n achosi salwch ymysg pobl. Yna gellir darparu’r data i gyrff fel y llywodraeth genedlaethol, y GIG, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Lloegr a chwmnïau dŵr. Yna byddant yn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus ar reoli clefydau ac ymateb ac addasu i epidemigau posibl yn y dyfodol.

Mae deugain-a-dau o ymchwilwyr o bob cwr o’r byd, gan gynnwys Yr Athro Ann John, Dirprwy Bennaeth Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, wedi ffurfio’r Gymdeithas Gydweithredol Ryngwladol i Ymchwilio i Atal Hunanladdiad yn sgil COVID-19. Mae pryder cynyddol am yr effaith bellgyrhaeddol y gall Covid-19 ei chael ar iechyd meddwl pobl ledled y byd. Mae’r gweithredoedd yn amrywio o gynnig cymorth i’r rhai sy’n unig ac yn fregus, gan gynnwys y rhai ar y rheng flaen, pobl ifanc a’r rhai mewn profedigaeth, i hyrwyddo newyddiaduraeth gyfrifol a pholisi economaidd. Mae’r grŵp byd-eang o arbenigwyr wedi dweud y bydd y pandemig yn achosi gofid, gan adael llawer yn agored i niwed, ond gall y dystiolaeth yn sgil ymchwil ddarparu sylfaen gref ar gyfer atal hunanladdiad gyda chefnogaeth cydweithredu rhyngwladol.

Mae cysylltiadau rhyngwladol y bu prifysgolion yn eu datblygu dros y blynyddoedd wedi bod yn amhrisiadwy yn y cyfnod allweddol hwn. Mae’r perthnasoedd hirsefydlog hyn yn dangos sut mae prosiectau cydweithredol yn gyfle gwerthfawr i gael mewnwelediad go iawn a sicrhau cefnogaeth yn ystod ac ar ôl y pandemig hwn.