• Mae ymchwil newydd yn dangos cefnogaeth gref gan rieni i gyrsiau prifysgol creadigol
  • Dywed mwy na dwy ran o dair (69 y cant) o rieni fod cyrsiau creadigol yn hanfodol i bweru diwydiannau creadigol y DU, ac mae bron i ddwy ran o dair (65 y cant) o’r farn eu bod o fudd i economi’r DU
  • Ond mae 67 y cant yn ofni bod y pandemig wedi achosi difrod hirdymor i ddiwydiannau creadigol y DU
  • Mae sefydliad Prifysgolion y DU yn lansio ymgyrch Creative Sparks i annog y Llywodraeth i hyrwyddo a chefnogi pwysigrwydd creadigrwydd a chyrsiau creadigol

Mae’r astudiaeth, a gynhaliwyd gan Savanta ComRes ar gyfer Prifysgolion y DU, yn datgelu bod bron i ddwy ran o dair (65 y cant) o rieni’n cytuno bod cyrsiau creadigol mewn prifysgolion o fudd i economi’r DU, tra bod mwy na dwy ran o dair (69 y cant) yn dweud bod myfyrwyr yn meithrin sgiliau creadigol yn y brifysgol sy'n hanfodol i bweru diwydiannau creadigol y DU.

Ond mae ofnau y gallai allbwn creadigol y DU fod dan fygythiad, gyda dwy ran o dair (67 y cant) o rieni’r DU yn cydnabod bod diwydiannau creadigol wedi dioddef yn sylweddol o ganlyniad i’r pandemig. Cyn y pandemig, y diwydiannau creadigol oedd y sector oedd yn tyfu gyflymaf yn y DU, gan gynhyrchu dros £116 biliwn i’r economi ac yn cyflogi 2.1 miliwn o bobl yn uniongyrchol.

A band playing on stage

Mewn ymateb, mae Prifysgolion y DU wedi lansio MadeAtUni: Creative Sparks, ymgyrch sydd â’r nod o arddangos y dalent greadigol a gynhyrchir gan brifysgolion y DU ac annog y Llywodraeth i hyrwyddo a chefnogi pwysigrwydd creadigrwydd a chyrsiau creadigol.

Mae saith o bob deg (71 y cant) o rieni’n falch bod y DU yn un o brif gynhyrchwyr diwylliant creadigol y byd, a dywed (70 y cant) fod gweithgareddau creadigol - fel gwrando ar gerddoriaeth, darllen, gwylio teledu a chwarae gemau - yn hanfodol i hybu llesiant yn ystod y pandemig.

Meddai Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr Prifysgolion Cymru: Mae ein prifysgolion, addysg greadigol a’n hacademyddion gwych yn ganolog i ragoriaeth greadigol y DU ac yn hanfodol i lwyddiant ein diwydiannau creadigol. Yma yng Nghymru, mae ein prifysgolion yn cyfrannu'n allweddol at y diwydiannau creadigol, gan ddarparu talent, sgiliau a chyfleoedd ar gyfer sector sy'n cyflogi mwy na 56,000 o bobl ledled Cymru. O gerddoriaeth i ffilmiau, rhaglenni teledu i gemau fideo, mae prifysgolion yn fannau lle mae syniadau creadigol yn ffynnu, lle mae arloesedd yn digwydd, a lle mae busnesau sy'n cyflogi miloedd o bobl yn cael eu cychwyn. Dyma’r lle mae gwreichion creadigol y genedl yn cael eu tanio.”

Fel rhan o’r ymgyrch – gyda chefnogaeth y cyflwynydd rhaglen frecwast Radio 1, Greg James – gwahoddwyd pob prifysgol yn y wlad i gynnig ‘Creative Spark’ sydd wedi cael effaith ar fywydau pobl – unigolyn neu brosiect sydd wedi gwneud cyfraniad enfawr i gelfyddyd a diwylliant Prydain.

Mae llu o dalentau creadigol mwyaf blaenllaw’r DU wedi’u henwebu, gan gynnwys y digrifwyr Greg Davies a Nish Kumar, a’r cerddor Laura Mvula. Dim ond rhai o’r enghreifftiau o sut mae prifysgolion y DU yn cyfrannu at ragoriaeth greadigol y wlad yw’r rhain.

Cliciwch yma i ddarllen y rhestr lawn o Creative Sparks, neu beth am chwarae'r gêm ar-lein i weld pa “Wreichionen Greadigol” ydych chi yma.

Mae’r Creative Sparks o brifysgolion Cymru a gaiff eu dathlu fel rhan o’r ymgyrch yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:

  • Y 40+ o fyfyrwyr a graddedigion o Brifysgol De Cymru a weithiodd ar addasiad y BBC o His Dark Materials gan Philip Pullman
  • Ymchwilwyr dylunio o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd a greodd HUG - dyfais ryngweithiol sy'n gwella llesiant meddwl pobl â dementia dwys.
  • Dau o raddedigion o Brifysgol Glyndŵr Wrecsam a gychwynnodd Focus Wales, gŵyl ryngwladol sy’n cyflwyno doniau newydd ochr-yn-ochr ag artistiaid enwog
  • Apsion Annabelle – actores sydd â gradd mewn Saesneg a Drama o Brifysgol Abertawe, sy’n fwyaf adnabyddus am chwarae rhan Monica Gallagher yn y gyfres deledu lwyddiannus Shameless.
  • Tim Routledge - sydd â gradd mewn Theatr Dechnegol o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a ddyluniodd y goleuadau ar gyfer set eiconig Stormzy yn Glastonbury 2019 a seremoni agoriadol Gemau Olympaidd Llundain 2012.
  • Myfyrwyr theatr o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant sy’n gweithio gyda’r elusen Oasis i gynnal gweithdai i ffoaduriaid a cheiswyr lloches sydd wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd
  • Osian Williams - cynhyrchydd ffilmiau arobryn sy'n rhoi’r clod am ei lwyddiant i'r gefnogaeth a gafodd tra'n astudio ym Mhrifysgol Bangor
  • Caerdydd Creadigol - rhwydwaith arobryn ar gyfer y diwydiannau creadigol a sefydlwyd gan Brifysgol Caerdydd

Gallwch ganfod mwy am Creative Sparks y DU yma. Gallwch hefyd ddilyn yr ymgyrch ar Twitter a Facebook.