Dewis Choice
Dewis Choice, sef prosiect sy'n cael ei redeg gan Brifysgol Aberystwyth, yw'r gwasanaeth cyntaf yn y DU sy’n benodol ar gyfer pobl hŷn sydd wedi profi cam-driniaeth ddomestig.
Ers ei sefydlu, mae dros 140 o bobl hŷn a'u teuluoedd wedi cael cefnogaeth ddwys hirdymor, gyda llawer yn disgrifio'r gwasanaeth fel un sydd wedi achub eu bywydau.
Cennad ddinesig
Mae prifysgolion yng Nghymru yn chwarae rôl ddinesig bwysig yn eu cymunedau, ac mae ganddynt hanes balch o weithio gyda phobl, gwasanaethau cyhoeddus a busnes.