O ddechrau’r pandemig coronafeirws yn gynharach eleni, mae prifysgolion wedi defnyddio eu gwybodaeth, eu harbenigedd a’u profiad i gynorthwyo’r ymdrech genedlaethol – gan fynd ati i gynhyrchu offer meddygol hanfodol, darparu cyfleusterau mawr eu hangen, arwain ymchwil arloesol a chynnig cymorth i’r rhai y mae’r pandemig wedi effeithio arnynt.

Mae’r adroddiad newydd hwn – Ymateb dinesig prifysgolion yng Nghymru i Covid-19 – yn dogfennu dim ond rhai o’r 250 o enghreifftiau a gasglwyd ers mis Mawrth o sut mae sefydliadau, eu staff a’u myfyrwyr, wedi cael effaith gadarnhaol ar y bobl yn eu cymunedau lleol ac ymhellach i ffwrdd trwy gydol argyfwng Covid-19.

Mae’r cyfraniadau y mae prifysgolion wedi’u gwneud yn cynnwys:

  • Darparu offer a chyfleusterau meddygol gan gynnwys cyfrannu offer amddiffynnol personol ac awyryddion, cynnig llety i nyrsys a grwpiau bregus, a darparu lle ar gyfer canolfannau rhoi gwaed.
  • Darparu hyfforddiant, ymchwil ac arbenigedd trwy sicrhau bod mwy o staff yn cael eu hyfforddi â sgiliau gofal critigol, gan gynnwys gofal anadlol clinigol, a darparu’r gwasanaeth iechyd â mwy o staff sydd wedi’u hyfforddi’n feddygol i gynorthwyo’r GIG. Cynhaliodd gwyddonwyr sy’n flaenllaw yn y sector ymchwil hanfodol i’r feirws, ac maent hefyd wedi rhoi mewnwelediad i’r effaith y mae’r afiechyd wedi’i chael ar bobl, cymunedau, yr amgylchedd a’r economi.
  • Cynnig cymorth i gymunedau ar ffurf staff a myfyrwyr yn gwirfoddoli, gan ddarparu parseli bwyd i ysbytai a helpu i godi arian at elusennau. Trefnodd staff a myfyrwyr ddiwrnodau chwaraeon ar-lein a gweithgareddau eraill hefyd i gadw pobl yn iach ac yn egnïol yn ystod y cyfnod clo.

Meddai Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:

“Rwy’n falch iawn bod Prifysgolion Cymru wedi cynhyrchu’r adroddiad hwn, sy’n cynnwys ystod eang o enghreifftiau diweddar sy’n tynnu sylw at ba mor werthfawr yw ein prifysgolion i’n cymunedau.

“Fel y dengys yr adroddiad, mae prifysgolion Cymru wedi ymateb i her y coronafeirws, gan weithredu’n gyflym i gynnig eu harbenigedd i helpu yn y frwydr yn erbyn y feirws mewn amryw o ffyrdd. Mae llawer o’r gwaith a wneir gan brifysgolion – partneriaethau ag ysgolion, ehangu mynediad, ymchwil ac arloesi – yn cynrychioli’r gorau o’u hymrwymiad i’w cennad ddinesig.

“Mae ein prifysgolion wedi gwneud cymaint eisoes i ddiwallu anghenion y cyfnod hwn, a byddant yn parhau i chwarae rhan hanfodol yn ein hadferiad trwy eu haddysgu, eu hymchwil a’u harloesedd.”

Dywedodd Lynnette Thomas, Cadeirydd y Rhwydwaith Cennad Ddinesig:

“Mewn amgylchedd hynod heriol, mae prifysgolion wedi blaenoriaethu iechyd a llesiant nid yn unig eu myfyrwyr a’u staff, ond hefyd y bobl yn eu cymunedau lleol ac ar draws y byd.

“Mae cynlluniau tymor hwy bellach yn cael eu rhoi ar waith i gefnogi ein cymunedau lleol mewn ardaloedd lle mae mawr eu hangen i helpu â chreu Cymru fwy gwydn.”

Ychwanegodd yr Athro Julie Lydon, Cadeirydd Prifysgolion Cymru:

Mae’r adroddiad hwn yn dangos yr effaith ddinesig gadarnhaol y mae prifysgolion wedi’i chael ar eu cymunedau lleol a’r wlad gyfan yn ystod pandemig Covid-19.

“Wrth i ni ddod allan o’r cyfnod clo a dechrau addasu i’r ‘normal newydd’, bydd y gwaith y mae ein prifysgolion yn ei wneud yn bwysicach nag erioed. O weithgaredd ymchwil, a chyfleoedd cymdeithasol a diwylliannol, i ddarparu addysg a sgiliau, bydd prifysgolion yn parhau i wneud cyfraniad cymdeithasol ac economaidd hanfodol i Gymru a’i chymunedau.”