Yn benodol, mae’n tynnu sylw at y camau y mae prifysgolion wedi’u cymryd i fynd i’r afael â’r heriau a amlygwyd yn y stori, gan gynnwys yr ymrwymiadau a nodir yn ein hegwyddorion recriwtio rhyngwladol a’r gwaith y mae prifysgolion wedi ymrwymo iddo trwy lofnodi'r Fframwaith Ansawdd Asiantau.

“Mae myfyrwyr rhyngwladol yn rhan werthfawr o’n campysau a’n cymunedau, ac mae prifysgolion yng Nghymru wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn eu gallu i wneud yn siŵr bod y rhai sy’n dewis astudio yng Nghymru’n teimlo bod croeso iddynt a’u bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.  

Mae’n destun pryder clywed am yr heriau penodol y mae myfyrwyr rhyngwladol yn eu hwynebu yn eich stori. Byddem yn annog unrhyw fyfyrwyr sy'n wynebu anawsterau i siarad â'u sefydliad, a fydd yn gallu darparu'r cyngor a'r arweiniad priodol. 

Mae prifysgolion yng Nghymru wedi cytuno ar set o egwyddorion ar gyfer recriwtio myfyrwyr rhyngwladol. Mae'r rhain yn canolbwyntio ar hyrwyddo arferion recriwtio moesegol a chynaliadwy, yn ogystal â sicrhau bod myfyrwyr yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Fel rhan o hyn, mae pob un o’n prifysgolion hefyd wedi ymrwymo i’r Fframwaith Ansawdd Asiantau, sy’n nodi arfer gorau wrth weithio gydag asiantau i sicrhau bod gwybodaeth briodol yn cael ei darparu i ddarpar fyfyrwyr.”