"Mae Prifysgolion Cymru yn falch o weld Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn cydnabod rôl hollbwysig cyllid ymchwil craidd megis cyllid sy’n ymwneud ag Ansawdd a chyllid arloesedd mewn AU. 

"Mae ymchwil gan brifysgolion yng Nghymru’n rhychwantu ystod eang o gryfderau a disgyblaethau, gydag effaith sy'n arwain y byd. Mae cydweithredu rhwng addysg uwch a diwydiant yn sicrhau manteision sylweddol i bobl a lleoedd Cymru, a thu hwnt.  

"Mae prifysgolion yn gweithio gyda’i gilydd trwy Rwydwaith Arloesedd Cymru i gydweithio ar geisiadau am gyllid, a gwella’r broses o ennill grantiau, ond yn y pen draw mae cymorth gan y llywodraeth yn ffactor allweddol o ran eu galluogi i greu’r capasiti sydd ei angen i barhau ar flaen y gad o ran ymchwil.  

"Mae Prifysgolion Cymru’n edrych ymlaen at ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar y camau nesaf sy'n deillio o argymhellion y Pwyllgor."