Prifysgolion Cymru yn arddangos ymchwil ac arloesed o'r radd flaenaf
Digwyddiad arddangos yn tynnu sylw at ymchwil gan Brifysgolion Cymru, sy'n cael effaith mewn cymunedau yng Nghymru, y DU a ledled y byd.
18 October 2023
- Mae arddangoswyr yn dangos cryfderau allweddol mewn meysydd fel lled-ddargludyddion, technoleg amaeth a Sero Net.
- Daeth David TC Davies, Ysgrifennydd Cymru, Ysgrifennydd Gwladol yr Adran am Wyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg, Michelle Donelan a’r Gweinidog Gwyddoniaeth, George Freeman i’r digwyddiad, a oedd yn tynnu sylw at gryfderau ymchwil ac arloesi yng Nghymru, gyda’r nod o annog buddsoddiad parhaus mewn ymchwil yng Nghymru.
Mae prifysgolion Cymru yn cyflwyno ymchwil o'r radd flaenaf sy'n gwneud cyfraniadau hollbwysig i'r economi a'r gymdeithas. Dyma'r neges o ddigwyddiad arbennig a gynhaliwyd yn Llundain yr wythnos hon a oedd yn arddangos y gorau o ymchwil ac arloesi yng Nghymru.
Swyddfa Cymru a Rhwydwaith Arloesi Cymru oedd yn cynnal y digwyddiad yn Lancaster House ar 17 Hydref, a oedd yn tynnu sylw at gryfder ac ehangder ymchwil prifysgolion Cymru, a gallu’r ymchwil i sicrhau manteision amlwg i gymunedau yng Nghymru, y DU a ledled y byd.
Gyda phrosiectau’n amrywio o ddatgarboneiddio ac arloesi seiber i ganfod firysau a thechnoleg lled-ddargludyddion, dangosodd yr arddangosfa amrywiaeth y sector ymchwil ac arloesi yng Nghymru, a’r rôl hanfodol sydd ganddo i’w chwarae o ran gyrru economi’r DU yn ei blaen a darparu atebion i rai o heriau mwyaf dybryd cymdeithas.
Mae Cymru eisoes ar flaen y gad mewn meysydd mor amrywiol â Thechnoleg Feddygol, Technoleg Amaeth a Sero Net ac mae ganddi glwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd sydd ymhlith y gorau yn y byd, sy’n sbarduno arloesed mewn technoleg a ddefnyddir ym mhob ffôn symudol bron ar y farchnad heddiw.
Mae cydweithio hefyd yn un o gryfderau allweddol y sector yng Nghymru, gyda llawer o'r prosiectau yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth ar draws nifer o brifysgolion yng Nghymru.
Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i fuddsoddi bron i £40 biliwn mewn ymchwil a datblygu rhwng 2022 a 2025. Mae prifysgolion Cymru mewn sefyllfa dda i gael gafael ar ragor o gyllid ymchwil ar gyfer ymchwil, gydag ymdrech i gynyddu’r cyllid i ardaloedd yn y DU y tu allan i dde-ddwyrain Lloegr o leiaf 40% erbyn 2030.
Roedd David TC Davies, Ysgrifennydd Cymru a’r Gweinidog Gwyddoniaeth, George Freeman ymhlith y rhai a oedd yn bresennol yn y digwyddiad, a oedd yn cynnwys 20 arddangosfa, gan gynnwys cipolwg ar dechnoleg delweddu digidol yn seiliedig ar olwg dynol ac arddangos sut gellir defnyddio pŵer niwclear yn y dyfodol.
Dywedodd David TC Davies, Ysgrifennydd Cymru:
"Roedd yn bleser gennyf groesawu prifysgolion Cymru i'r digwyddiad arbennig iawn hwn a dangos ymrwymiad Llywodraeth y DU i'r sector addysg uwch. Roedd yn gyfle gwych i UKRI gael blas ar rywfaint o'r gwaith ymchwil ac arloesi anhygoel sydd eisoes yn digwydd yng Nghymru ar draws ein holl brifysgolion.
"Rwyf am i brifysgolion Cymru chwarae rhan hollbwysig wrth osod y DU ar flaen y gad o ran ymchwil a datblygu, ac rwy'n gobeithio bod y digwyddiad hwn wedi ein helpu i wneud cynnydd tuag at y nod cyffredin hwnnw."
Dywedodd yr Athro Paul Boyle, Cadeirydd Rhwydwaith Arloesi Cymru ac Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe:
"Pwrpas Rhwydwaith Arloesi Cymru yw cryfhau ymchwil ac arloesi yng Nghymru drwy hwyluso cydweithio rhyngddisgyblaethol, felly roedd yn arbennig o gadarnhaol gweld cynifer o'r prosiectau a oedd yn cael eu harddangos yn dangos gwerth cydweithio ar draws prifysgolion Cymru.
"Byddwn yn parhau i arddangos cryfderau ymchwil yng Nghymru ac rydyn ni’n croesawu rhagor o ymgysylltu â'r llywodraeth a rhanddeiliaid i barhau i gynyddu cyllid ymchwil ac arloesi ym mhrifysgolion Cymru.
"Gyda sector ymchwil ac arloesi sy'n cael ei ariannu'n gynaliadwy, gallwn barhau i greu effaith economaidd a chymdeithasol ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol."
Dywedodd y Fonesig Athro Ottoline Leyser, Prif Weithredwr UKRI:
"Mae yna gryfderau ymchwil ac arloesi nodedig ym mhrifysgolion Cymru, ac yn system ymchwil ac arloesi ehangach Cymru. Pan rwyf wedi ymweld â Chymru a chwrdd â rhanddeiliaid yng Nghymru, rwyf wedi siarad â llawer o bobl wych, gan gynnwys ymchwilwyr ac entrepreneuriaid ar ddechrau eu gyrfa, technegwyr, y gymuned leol ac arweinwyr ymchwil byd-eang.
"Mae prifysgolion Cymru yn llwyddiannus iawn wrth ennill cyllid ymchwil o bob rhan o UKRI, gyda chyfraddau llwyddiant yn debyg i weddill y DU. Mae'r prosiectau hyn yn dangos yn gadarn sut mae prifysgolion Cymru yn datblygu ymchwil ar draws ystod eang o feysydd, ac yn sbarduno arloesedd a thwf economaidd, sydd o fudd i'r DU gyfan a thu hwnt."