Sy’n dod â phedwar heddlu Cymru a phrifysgolion Cymru ynghyd trwy Rwydwaith Arloesedd Cymru (RhAC); nod CAPCG yw sefydlu sylfaen dystiolaeth ehangach ar gyfer plismona yng Nghymru.

Yn dilyn cais llwyddiannus am gyllid y llynedd, mae tri phrosiect – sy’n ymwneud â chydweithio rhwng prifysgolion a heddluoedd yng Nghymru – bellach wedi’u dewis ar gyfer cyllido pellach o fewn cylch gorchwyl trais yn erbyn menywod a merched (TEMM):

  • Casineb at fenywod fel ffactor risg sy'n arwain at niwed difrifol mewn achosion o gam-drin domestig
  • Ymgyrch Diogel ac Unedau Arbenigol ar gyfer mynd i'r afael â TEMM ledled Cymru
  • Mynd i'r afael â TEMM, cam-drin domestig a thrais rhywiol a Gyflawnir gan yr Heddlu: Gwerthusiad o broses

Meddai Lewis Dean, Pennaeth Rhwydwaith Arloesedd Cymru

“Mae Cydweithrediad Academaidd Plismona Cymru Gyfan yn chwarae rhan hanfodol wrth ddod â phrifysgolion a heddluoedd ledled Cymru ynghyd. Mae RhAC yn falch iawn o fod wedi bod yn rhan o’r gwaith pwysig hwn ers ei lansio ym mis Mawrth 2022.

“Rwy’n falch iawn y gallwn barhau i ddarparu cyllid ar gyfer ymchwil hanfodol i drais yn erbyn menywod a merched. Mae gan y tri phrosiect hyn y potensial i ddatblygu ymchwil yr heddlu ymhellach yng Nghymru a gallant gael effaith wirioneddol ar blismona yng Nghymru a’r DU.”

Dywedodd yr Athro Deborah Jones o Brifysgol Abertawe, cyd-gadeirydd CAPCG:

“Mae’n galonogol iawn gweld cynnig sydd yn adeiladu ar brosiectau Blwyddyn 1 CAPCG, gan ddwyn ynghyd y pedwar heddlu yng Nghymru i drafod Cam-drin Domestig a Gyflawnir gan yr Heddlu, gan sicrhau bod ymchwil yn y maes hwn yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Mae cynnig cymorth i ddioddefwyr a goroeswyr trais yn erbyn menywod a merched yn ganolog i uniondeb sefydliadol, ac mae ymyriadau o’r fath o ddiddordeb allweddol i Brif Gyngor Cenedlaethol yr Heddlu ac o ddiddordeb strategol i blismona yng Nghymru a Lloegr.”

Meddai’r Uwch-arolygydd Ross Evans o Heddlu Dyfed-Powys, cyd-gadeirydd CAPCG:

“Mae mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched yn flaenoriaeth uchel i heddluoedd Cymru. Rwy’n falch iawn o weld datblygiad y prosiectau hyn yn cyd-fynd â’r agenda TEMM, gan roi mwy o wybodaeth i heddluoedd Cymru a phartneriaid ar gyfer datblygu ymyriadau yn y maes hwn. Cytunodd CAPCG hefyd i ariannu portffolio o brosiectau i wneud y mwyaf o effaith y cyllido ar draws prifysgolion a heddluoedd Cymru.”

 

Prosiectau

Casineb at fenywod fel ffactor risg sy'n arwain at niwed difrifol mewn achosion o gam-drin domestig

Dan arweiniad Prifysgol Bangor, bydd y prosiect hwn yn ymchwilio i weld a yw casineb tuag at fenywod yn ffactor risg unigol sy’n arwain at niwed difrifol mewn achosion o gam-drin domestig. Bydd yr ymchwil yn ceisio nodi ffactorau risg ychwanegol ar gyfer trais domestig difrifol a bwydo i mewn i hyfforddiant yr heddlu a hyfforddiant proffesiynwyr sy'n gweithio ym maes cam-drin domestig.

Mae'r prosiect yn estyniad o draethawd ymchwil a ddeilliodd o weithio ar y cyd rhwng Prifysgol Bangor a Heddlu Gogledd Cymru. Nawr, mae ehangu ar draws holl ardaloedd heddluoedd Cymru yn galluogi'r data i gynrychioli Cymru gyfan ac yn ehangu effaith canfyddiadau ac argymhellion. 

Bydd yr ymchwil hefyd yn adolygu’r asesiad risg newydd ar gyfer cam-drin domestig, a ddatblygwyd gan y Coleg Plismona i baratoi swyddogion rheng flaen yn well ar gyfer adnabod rheolaeth orfodol.

 

Ymgyrch Diogel ac Unedau Arbenigol ar gyfer mynd i'r afael â TEMM ledled Cymru

Mae'r prosiect hwn, a arweinir gan Brifysgol Caerdydd, yn adeiladu ar werthusiad o 'Ymgyrch Diogel', sef tîm arbenigol newydd o ymchwilwyr sy'n ceisio gwella profiadau dioddefwyr, diogelu a deilliannau cyfiawnder troseddol yn Uned Reoli Sylfaenol Caerdydd a'r Fro.

Bydd gweithdai cyfnewid gwybodaeth gyda chynrychiolwyr o bob un o’r pedwar heddlu a’u partneriaid yn cael eu trefnu i ledaenu canfyddiadau’r gwerthusiad o Ymgyrch Diogel, yn ogystal â chyfathrebu arfer gorau a’r hyn a ddysgwyd ledled Cymru er mwyn cynyddu effeithiolrwydd yr heddlu wrth ymateb i gam-drin domestig / TEMM. Bydd y prosiect yn galluogi sbarduno cynllun ymchwil Cymru-gyfan mwy cadarn.

 

Mynd i'r afael â TEMM, cam-drin domestig a thrais rhywiol a Gyflawnir gan yr Heddlu: Gwerthusiad o’r broses

Mae’r prosiect hwn yn adeiladu ar brosiect Blwyddyn 1 CAPCG ’Mynd i'r afael â cham-drin domestig o fewn yr heddlu – archwilio ymateb heddluoedd Cymru i ddioddefwyr a throseddwyr fel gweithwyr'. Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio ar gyfer datblygu a mireinio’r model Theori Newid a’r fframwaith ar gyfer monitro a gwerthuso; bydd hefyd yn cyfrannu at wasanaeth eiriolaeth arbenigol ar gyfer dioddefwyr a goroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a gyflawnir gan yr heddlu.

Bydd y canfyddiadau’n  cyfrannu at y dystiolaeth gyfyngedig sydd ar gael ynghylch trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a gyflawnir gan yr heddlu, yn ogystal ag ymyriadau, darparu fframwaith ar gyfer profi a gwerthuso effaith yn y dyfodol ymhellach a chreu cyfleoedd ar gyfer dysgu a datblygu o fewn heddluoedd.

Mae’r prosiect wedi’i gyd-gynhyrchu gan Brifysgol De Cymru, Y Brifysgol Agored, Heddlu De Cymru, Heddlu Gwent, Gwasanaeth Cam-drin Domestig y Fro a Chymorth i Fenywod Cyfannol.